Dyfodol Ysbyty Tregaron yn y fantol wrth i ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau
Fe allai Ysbyty Cymunedol Tregaron gau ei ddrysau wrth i ymgynghoriad gael ei gynnal ynglŷn â’i ddyfodol.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynglŷn â chau'r ysbyty sydd a naw gwely yno.
Mae'r bwrdd yn dweud fod lefel annigonol o staffio yn ei gwneud hi’n ‘heriol’ i ddarparu gofal i gleifion yn yr ysbyty.
Bydd dyfodol yr ysbyty yn cael ei drafod mewn cyfarfod ddydd Iau 25 Gorffennaf, gyda mis o ymgynghoriad yn cael ei agor ar 1 Awst ac yn cau ar 29 Awst.
Dywedodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Meddyg Teulu lleol Tregaron: "Mae Ysbyty Tregaron wedi bod yn rhan o'n cymuned leol ers nifer o flynyddoedd, ac mae angen i ni ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i'n cymuned sy'n diwallu eu hanghenion presennol ac yn y dyfodol."
Daw'r newyddion wedi i Gyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru ddatgelu cynllun Cylch Caron sef adeiladu canolfan iechyd newydd yn yr ardal.
Mae’r prosiect Cylch Caron yn cynnig model gofal newydd, fyddai’n symud gofal i gleifion o’r ysbyty cymunedol i’w cartrefi.
Mae’r bwrdd iechyd wedi dweud y byddai angen ‘newid y ffordd mae staff yn gweithio’ er mwyn cyflawni’r newid, gyda mwy o staff ar gael yn y gymuned er mwyn ‘canolbwyntio ar gadw pobl yn iach gartref.’
Ychwanegodd Dr Sion James: "Mae'r Ganolfan yn brosiect cyffrous ac unigryw sy'n ceisio cynnig llawer o gyfleoedd a buddion i bobl yn yr ardal. Bydd hyn yn dod ag ystod o wasanaethau ynghyd mewn canolfan ganolog ar gyfer Tregaron a'r ardaloedd gwledig cyfagos.
”Bydd y prosiect yn creu model gwledig arloesol o ofal yn y gymuned i ddiwallu anghenion gofal, iechyd a thai yn yr ardal, sy'n addas ar gyfer heddiw ac yn gynaliadwy ar gyfer yfory."
'Rota staffio yn fregus'
Cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion yn ddiweddar eu bod yn gwahodd cwmnïau i dendro am ddylunio ac adeiladu'r ganolfan newydd.
Bydd y ganolfan iechyd yn cynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a chyfleusterau nyrsio cymunedol a gofal cymdeithasol. Bydd hefyd fflatiau gofal ychwanegol ac unedau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Bydd aelodau o'n cymuned leol yn gyfarwydd â'n gweledigaeth.
"Wrth i ni ddatblygu ein cynllun Cylch Caron, mae angen i ni hefyd ystyried ein model gofal presennol ar gyfer cleifion yn Ysbyty Tregaron.
“Er gwaethaf ymdrechion i recriwtio i swyddi, nid yw ein lefel bresennol o staffio yn ddigonol, ac mae ein rota staffio yn fregus. Mae ein staff wedi lleisio pa mor heriol yw cefnogi ein cleifion drwy ein model gofal presennol yn Ysbyty Tregaron.
"Ein cynnig yw symud ein staff o fod yn yr ysbyty a gofalu am y naw gwely, i fod yn y gymuned. Bydd hyn yn ein galluogi i gefnogi mwy o gleifion yn eu cartrefi.”