Joe Biden yn ‘benderfynol’ o barhau yn y ras arlywyddol
Wrth i’r pwysau gynyddu arno i adael ras arlywyddol America, dywedodd Joe Biden ei fod yn edrych ymlaen at “fynd yn ôl ar drywydd yr ymgyrch yr wythnos nesaf”.
Fe wnaeth bwysleisio ei ymrwymiad i barhau yn y ras wrth i fwy o Ddemocratiaid alw arno i gamu o’r neilltu fel enwebai’r blaid.
“Mae’r hyn sydd yn y fantol yn uchel, ac mae’r dewis yn glir. Gyda'n gilydd, byddwn yn ennill," meddai Mr Biden.
Daw hyn ar ôl i ddau o aelodau blaenllaw o'r Blaid Ddemocrataidd yn Senedd America fynegi pryderon am ymgyrch arlywyddol Mr Biden.
Cafodd y pryderon eu mynegi gan arweinydd y Democratiaid yn y Senedd Americanaidd, Chuck Schumer, ac Arweinydd Lleiafrif y Tŷ, Hakeem Jeffries, sydd wedi cyfarfod â Mr Biden yn unigol i fynegi pryderon am ei ymgyrch i gyrraedd y Tŷ Gwyn ar gyfer ail dymor.
Mae Nancy Pelosi, cyn lefarydd Tŷ’r Cynrychiolwr, hefyd wedi dweud wrtho’n breifat na all guro Donald Trump yn yr etholiad ym mis Tachwedd, yn ôl gwasanaeth newyddion CNN.
Daw'r pwysau cynyddol ar Mr Biden, sy’n 81 oed, i gamu o'r neilltu wrth iddo dynnu allan o ddigwyddiadau ymgyrchol gan ei fod yn dioddef o Covid-19.
Dywedodd y Tŷ Gwyn fod yr ymgeisydd Democrataidd yn profi symptomau ysgafn, a'i fod wedi dychwelyd i'w gartref yn Delaware i hunan-ynysu.
Mae Mr Biden wedi mynnu na fydd yn gadael y ras arlywyddol, er gwaethaf ofnau y gallai ei oedran achosi iddo golli i Donald Trump ym mis Tachwedd.
Yn gynharach yn y mis, fe wnaeth Mr Biden gamsyniadau yng nghyngres NATO, a hynny yng nghwmni arweinwyr gwledydd yr undeb, fe wnaeth Mr Biden gyflwyno arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, fel "yr Arlywydd Putin", sef arlywydd Rwsia.
Mae Wcráin wedi bod mewn rhyfel gyda Rwsia ers mis Chwefror 2022. Fe wnaeth gywiro ei hun yn gyflym ar ôl hynny.
Mewn cynhadledd i’r wasg yn ddiweddarach, dywedodd Mr Biden ei fod yn gwrthod pryderon am ei ymgyrch.
Llun: Wochit