Disgwyl mwy o oedi yn sgil problem TG byd-eang
Mae oedi a chanslo hediadau awyr yn parhau ddydd Sadwrn o ganlyniad i broblemau technoleg gwybodaeth byd-eang.
Mae arbenigwyr wedi rhybuddio y gallai gymryd wythnosau i systemau wella’n llwyr o’r broblem.
Fe wnaeth diweddariad meddalwedd gan y cwmni seiberddiogelwch CrowdStrike arwain at broblemau ar-lein ledled y byd ddydd Gwener, gan achosi canslo hediadau a theithiau trên ac effeithio ar rai systemau gofal iechyd.
Fe effeithiodd y nam ar gyfrifiaduron personol Microsoft Windows, brynhawn Gwener, gyda phrif weithredwr CrowdStrike yn rhybuddio y byddai'n cymryd “peth amser” i systemau gael eu hadfer yn llawn.
Wrth ymddiheuro dywedodd George Kurtz nad oedd “yn ddigwyddiad diogelwch nag ymosodiad seiber”.
Mae’r oedi i deithwyr yn debygol o barhau dros y penwythnos. Dywedodd meysydd awyr ledled y DU – gan gynnwys Gatwick, Heathrow, Manceinion a Belfast – y dylai teithwyr wirio gyda chwmnïau hedfan am unrhyw oedi neu ganslo cyn teithio dros y penwythnos.