Ailenwi adeilad S4C ar faes y Sioe Frenhinol yn ‘Corlan Dai Llanilar’
Mae adeilad S4C ar faes y Sioe Frenhinol yn cael ei ail enwi yn ‘Corlan Dai Llanilar’ ddydd Mawrth er cof am y darlledwr.
Fe fuodd Dai Jones, oedd yn ffermwr, cyflwynydd ac yn ganwr amlwg farw yn 78 oed ym mis Mawrth 2022.
Roedd yn cyflwyno sawl rhaglen adnabyddus ar y radio a theledu, ond mae’n cael ei gofio’n bennaf fel cyflwynydd y gyfres Cefn Gwlad.
Dywedodd Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro S4C: “Mae’r penderfyniad i alw adeilad S4C ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Corlan Dai Llanilar wedi bod yn un rhwydd a naturiol iawn i’w gwneud.
“Roedd Dai Jones yn un o hoelion wyth y byd darlledu Cymraeg, a’i afiaith dros y Gymraeg, darlledu Cymraeg ac hefyd dros gefn gwlad Cymru yn heintus.
“Rydym yn falch iawn fel S4C ein bod yn gallu coffau’r gŵr arbennig ac unigryw hwn mewn ffordd arbennig. Bydd y cenedlaethau i ddod hefyd yn gallu dysgu am Dai a chael eu hysbrydoli ganddo.”
‘Braint’
Bydd llechen yn cael ei dadorchuddio yn adeilad S4C am 10.45 gan gyfeirio at Dai fel y ‘Ffarmwr, Darlledwr, Gwladgarwr’.
Mae’r llechen yn cael ei chyflwyno gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac yn cynnwys englyn gan y bardd Tudur Dylan Jones:
Dai
Dai’r ardal hyd y dalar, - Dai â’i lais
Hyd y wlad, Dai’r cymar,
Dai frenin ei werin wâr.
Llawn o hwyl yw Llanilar.
Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Sioe Frenhinol Cymru: "Byddai Dai yn dweud yn aml, y fraint fwyaf a ddaeth i’w rhan oedd cael ei ethol yn Llywydd y Gymdeithas.
“Ac eleni, mae’n fraint i ni ddadorchuddio cofeb barhaol am un o fawrion y genedl. Roedd y Sioe yn golygu lot i Dai ac rydym yn cofio gyda gwen ar ein hwynebau am un o gewri cefn gwlad Cymru yr wythnos hon.”
Yn y derbyniad bydd gwasg Y Lolfa’n lansio cyfrol Cofio Dai, casgliad o ysgrifau wedi’u llunio gan y bobl oedd yn ei adnabod orau ym mhob rhan o’i fywyd.
Roedd golygydd y gyfrol, Beti Griffiths, yn ffrind agos i Dai a’i weddw, Olwen.