Newyddion S4C

‘Rhif yn unig yw oedran’: Triathletwr hynaf Ewrop yn cynrychioli Cymru

ITV Cymru 18/07/2024
Wayne Richards

Mae Wayne Richards, sy’n 72 mlwydd oed, yn driathletwr sydd ddim yn gadael i’r ffaith ei fod yn bensiynwr ei rwystro rhag ennill medalau a gwella ei amseroedd rasio.

“Rhif yn unig yw oedran”, meddai’r ‘ironman’ o’r Mwmbwls.

Wayne yw triathletwr hynaf Ewrop ac fe wnaeth ddychwelyd o’r Bencampwriaeth Ewropeaidd wythnos ddiwethaf, lle roedd e’n cynrychioli Prydain. 

Fe wnaeth Wayne ddechrau hyfforddi ar gyfer triathlonau saith mlynedd yn ôl yn unig, ag yntau'n 65 mlwydd oed, ar ôl cwrdd ag athletwyr ar hap oedd yn cymryd rhan yn Nhriathlon Sbrint Abertawe.

O’r foment honno, mae’n dweud bod y gamp wedi cael “gafael” arno, ac mae ar fin cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth y DU yn hwyrach yn y mis. 

“Mae’n dipyn o fraint rili, do’n i byth yn meddwl y byddwn yn gwneud hyn fy oedran i!” meddai wrth ITV Cymru Wales. 

Ychwanegodd: “Dwi’n ei mwynhau, mae yna bwrpas i’m ymarfer corff ar hyn o bryd. Cyn i fi wneud triathlonau, doedd dim llawer o bwrpas mynd i’r gampfa, ro’n i ond yn mynd er mwyn cadw’n heini. Nawr, mae’r ffitrwydd yn dod yn naturiol, dydw i erioed wedi bod mor heini.”

Roedd Wayne yn hoff o gystadlu erioed, ac fe wnaeth e ddechrau nofio yn y pwll tu allan, yn Ystalyfera pan oedd e’n blentyn. 

Image
Wayne Richards
Mae Wayne Richards yn disgrifio cynrychioli Cymru fel "braint." (Llun: ITV Cymru Wales)

Mae ei gynllun hyfforddi chwe-diwrnod-yr-wythnos yn cynnwys rhedeg ar draws y Gŵyr, nofio ym Mae Langland, seiclo o’r Mymbyls i Gastell Nedd a dros fynyddoedd Cwmdulais.

“Heddiw (ddydd Llun) yw fy niwrnod i orffwys, ond yfory dwi’n gorfod nofio a rhedeg. Wel dydw i ddim yn gorfod gwneud, dwi’n dewis gwneud," meddai.

“Y diwrnod nesaf, dwi’n gorfod seiclo ac yn y blaen am weddill yr wythnos tan ddydd Llun, pan ga’i orffwys eto o’r diwedd.”

Mae’r rhan fwyaf o athletwyr cystadleuol yn ystyried ymddeol yn eu 30au cynnar. Ar y llaw arall, mae Wayne yn canolbwyntio ar y Bencampwriaeth Ewropeaidd nesaf yn Istanbul, heb gynlluniau i roi’r gorau i gynrychioli Prydain eto. 

Dywedodd: “Bydd fy nghorff yn dweud wrthyf pryd dwi’n gorfod stopio, ac ar hyn o bryd dyw e ddim yn dweud wrthyf i stopio, felly fe wna’i gario ymlaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.