Newyddion S4C

Dynes yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen saith oed yn Sir Benfro

17/07/2024
Heddlu Hwlffordd

Mae dynes wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio bachgen saith oed yn Sir Benfro.

Fe gafodd Papaipit Linse, 43 oed, ei chyhuddo o lofruddio Louis Linse yn Hwlffordd ar 10 Ionawr.

Fe ymddangosodd gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Cyhoeddwyd bod Louis wedi marw yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg ar ôl i’r heddlu gael eu galw i’w gyfeiriad ar Stryd y Farchnad Uchaf.

Ym mis Ionawr, dywedodd swyddog y crwner PC Carrie Sheridan wrth y llys: “Am 10.44am ddydd Mercher Ionawr 10, derbyniodd yr heddlu alwad ffôn frys yn adrodd am farwolaeth plentyn dan amheuaeth.

“Cafodd ei gludo i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Er gwaethaf ymdrechion gorau’r gwasanaethau brys yn y fan a’r lle a staff meddygol yr ysbyty, cyhoeddwyd ei fod wedi marw am 12:00 ddydd Mercher 10 Ionawr.”

Bydd gwrandawiad pellach ar 23 Medi.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.