Vaughan Gething: Prif Weinidog newydd yn ei le ‘yn gynnar yn yr hydref’
Vaughan Gething: Prif Weinidog newydd yn ei le ‘yn gynnar yn yr hydref’
Mae Vaughan Gething wedi dweud y bydd Prif Weinidog newydd yn ei le “yn gynnar yn yr hydref”.
Ond mae cyn aelod o gabinet Llywodraeth Cymru wedi galw arno i fynd yn syth, ac i aelodau Llafur yn y Senedd ddewis olynydd.
Roedd yn siarad yn y Senedd wedi iddo gadarnhau y bydd yn ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog Cymru.
Dywedodd y byddai yn parhau yn Brif Weinidog hyd nes bod person newydd yn cael ei ethol i gymryd ei le.
“Byddaf yn awr yn trafod amserlen ethol arweinydd newydd Llafur Cymru gyda Phwyllgor Gwaith Cymru fy mhlaid," meddai.
“Byddaf wedyn yn cadarnhau amserlen i roi’r gorau iddi yn ffurfiol fel Prif Weinidog fy ngwlad.”
Wrth ateb cwestiynau gan arweinydd yr wrthblaid, meddai: “Yn gynnar yn yr hydref, bydd person newydd yn sefyll yma fel arweinydd Llafur Cymru, a bydd angen i’r lle hwn benderfynu a ddylid ethol y person hwnnw fel yr ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y Brenin yn cadarnhau’r dewis hwnnw.”
Ychwanegodd: “Byddaf yn parhau i wneud fy nyletswydd dros fy ngwlad hyd nes yr etholir person newydd i gymryd fy lle.”
Ond dywedodd Leighton Andrews, cyn weinidog addysg yn Llywodraeth Cymru, y dylai fynd yn fwy buan.
"Be' sy'n gorau yn fy marn i bydd Vaughan Gething yn gadael yr wythnos 'ma.," meddai Leighton Andrews.
"A mae'n rhaid i'r grŵp Llafur yn y Senedd ddewis arweinydd newydd.
"Jyst fel hanes, Alun Michael a Rhodri Morgan yn y gorffennol wrth gwrs."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1813169755995492718
‘Cydnabod’
Daw ymddiswyddiad Vaughan Gething wedi i aelodau o'i gabinet ei hun ymddiswyddo ddydd Mawrth gan alw arno i "fynd yn syth".
Dywedodd Mick Antoniw, Jeremy Miles, Julie James a Lesley Griffiths eu bod nhw'n camu i lawr o'r cabinet.
Mewn datganiad fore Mawrth, dywedodd Mr Gething: “Bore ‘ma, dwi wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddechrau’r broses o gamu lawr fel arweinydd Llafur Cymru, ac o ganlyniad, fel Prif Weinidog.
“Wedi i mi gael fy ethol fel arweinydd fy mhlaid ym mis Mawrth, roeddwn i wedi gobeithio dros yr haf, y byddai yna gyfnod o adlewrychu, ail-adeiladu ac adnewyddiad yn gallu digwydd.
“Dwi’n cydnabod rwan nad ydy hyn yn bosib.
“Mae hi wedi bod yn fraint fwyaf fy mywyd i wneud y swydd yma, a hyd yn oed os oedd hynny ddim ond am ychydig fisoedd.
“Yn fy 11 mlynedd fel Gweinidog, dwi erioed wedi gwneud penderfyniad er budd personol. Dwi erioed wedi cam-ddefnyddio neu gymryd mantais o fy nghyfrifoldebau gweinidogol.
“Mae fy hygrededd yn bwysig i mi. Nid wyf wedi cyfaddawdu hyn.
“Byddaf rwan yn gwneud amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd fy mhlaid.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r rhai sydd wedi fy nghefnogi, fy nhîm a fy nheulu dros yr wythnosau diwethaf. Mae wedi golygu cymaint i ni gyd.
“I’r rhai yng Nghymru sydd yn edrych fel fi, ac mae llawer o’r rhain yn poeni ar hyn o bryd, dwi’n gwybod y gall ein gwlad ni wneud yn well. Dwi’n gwybod na fyddai hyn yn gallu digwydd hebddom ni.
“Bydd yna, ac mae’n rhaid cael, llywodraeth sy’n edrych fel y wlad y mae hi’n llywodraethu.”
'Colli pleidlais'
Mae Mr Gething wedi bod dan bwysau wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan gwmni oedd â'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.
Cafodd Mr Gething hefyd ei feirniadu am ei benderfyniad i sacio Hannah Blythyn o'i swydd yn y llywodraeth, wedi honiadau bod gwybodaeth wedi ei ryddhau i'r wasg, a hynny heb ddangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r penderfyniad.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog Vaughan Gething ddydd Mawrth, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Mr Antoniw, sy'n Aelod o'r Senedd dros Bontypridd: "Dros yr wythnos diwethaf rydym ni wedi cael nifer o sgyrsiau am yr heriau rydych chi wedi wynebu fel Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru.
"Mae'n rhaid i mi eich cynghori nad ydw i'n teimlo y gallwch chi barhau fel Prif Weinidog.
“Mae Cymru angen llywodraeth hyderus a sefydlog. Dydw i ddim yn credu y gallwch chi roi hynny.
"Rydych chi wedi colli pleidlais o hyder yn y Senedd. Mae hynny yn rhywbeth dwi’n ystyried o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr."
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd yr Economi a'r Iaith Gymraeg, mewn llythyr hefyd at Mr Gething: "Allwn ni ddim parhau fel hyn."
"Mae digwyddiadau’r misoedd diwethaf, gan gynnwys colli’r bleidlais o hyder yn y Senedd, wedi bod yn boenus iawn.
“Dwi’n siwr fod y cyfnod wedi cael effaith arnoch chi a’ch teulu, mae’n sicr wedi ar grŵp Llafur y Senedd ac i nifer yn Llafur Cymru."
Y cefndir
Cafodd yn cyn weinidog economaidd 50 oed ei ethol yn Brif Weinidog yn unfrydol gan aelodau ei blaid ei hun yn y Senedd ym mis Mawrth.
Daeth ei etholiad ffurfiol yn y Senedd yn dilyn ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur gan aelodau’r blaid a chyrff cysylltiol.
Curodd y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles, mewn gornest agos o 51.7% i 48.3% o’r pleidleisiau.
Ef oedd arweinydd croenddu cyntaf un o genhedloedd y Deyrnas Unedig a'r cyntaf yn Ewrop yn yr oes fodern.
Ond roedd wedi dod dan bwysau cynyddol hyd yn oed cyn cael ei ethol wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig gan gwmni oedd a'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.
Roedd Mr Gething hefyd wedi gwrthod dangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei benderfyniad i sacio Hannah Blythyn o'i swydd yn y llywodraeth, wedi iddo honni ei bod hi wedi rhyddhau gwybodaeth i'r wasg. Mae Ms Blythyn wedi gwadu'r honiad.
Collodd bleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ar ddydd Mercher, y 5ed o Awst.