Teyrnged i 'fachgen hyfryd' a fu farw mewn gwrthdrawiad fore Sul
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ffordd y Barri yn Ninas Powys, Bro Morgannwg yn gynnar fore dydd Sul.
Roedd Connor Ockerby yn 20 oed ac yn dod o'r Barri.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu eu bod yn ei addoli: “Collom ein bachgen hyfryd Connor mewn damwain car fore Sul.
"Roedd yn golygu cymaint i ni - ei Fam, Dad, ei frawd Dean, ei gariad Courtney, ei fodrybedd ac ewythrod.
"Roedd hefyd yn cael ei garu gan ei deulu ehangach a'i ffrindiau a oedd yn rhan enfawr o'i fywyd, yn ogystal â phawb a oedd yn ei adnabod.
“Mae'n rhywbeth na wnawn ni fyth ddygymod ag e, a bydd ei farwolaeth yn gadael bwlch enfawr yn ein bywydau.
“Ry'n ni'n gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon, wrth i ni geisio dygymod â'n colled, ac rydym yn gofyn i bobol beidio â dyfalu am yr hyn ddigwyddodd yn y ddamwain, wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i gynnal ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn ymwneud â char Ford Fiesta llwyd, tua 3.50 fore Sul, 14 Gorffennaf.
Mae unrhyw un a welodd y car cyn neu adeg y gwrthdrawiad yn cael eu hannog i gysylltu â'r heddlu drwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2400233554.