Newyddion S4C

Neges i Loegr yn ymddangos ar draeth yng Nghymru ar ôl ffeinal Ewro 2024

ITV Cymru 15/07/2024
It's not coming home

Mae neges yn dweud ‘It’s not coming home’ wedi ymddangos ar draeth yng Nghymru.

Fe ymddangosodd y neges ar draeth Ynys y Barri ar ôl i Loegr golli ffeinal Ewro 2024 yn erbyn Sbaen.

Mae’r neges yn cyfeirio at anthem bêl-droed Lloegr, Three Lions, a gafodd ei chyfansoddi gan David Baddiel and Frank Skinner ar gyfer Euro 1996.

Mae’r gân yn cynnwys y geiriau ‘It's coming home, it's coming home,It's coming football's coming home’.

Ymddangosodd y neges ar y traeth ar ôl i Loegr foddi wrth ymyl y lan am yr eildro yn rownd derfynol y bencampwriaeth.

Curodd Sbaen Lloegr 2-1 yn y rownd derfynol yn Berlin nos Sul.

Mikel Oyarzabal oedd arwr y Sbaenwyr, wrth iddo sgorio’r gôl i ennill y gêm, a’r bencampwriaeth, yn y munudau olaf yn yr Olympiastadion.

Dyma bedwaredd fuddugoliaeth Sbaen yn y bencampwriaeth, tra bod Lloegr ddim wedi ennill eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.