Galw ar y llywodraeth i gynnal 'adolygiad llawn' o Fanc Datblygu Cymru
Mae un o bwyllgorau Senedd Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o Fanc Datblygu Cymru.
Er bod y banc yn annibynnol o'r Llywodraeth, mae'n cael ei ariannu o'r pwrs cyhoeddus.
Saith mlynedd ar ôl sefydlu’r Banc, cynhaliodd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ymchwiliad i’w berfformiad, ac i ba raddau y mae’n cyflawni nodau Llywodraeth Cymru.
Cafodd canfyddiadau'r ymchwiliad eu cyhoeddi ddydd Gwener.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried cymorth busnes, ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o swyddogaethau Busnes Cymru ac archwilio’r posibilrwydd o ychwanegu ei swyddogaethau at gylch gwaith Banc Datblygu Cymru, ac i ganolbwyntio ar symleiddio’r cynnig o gymorth i fusnesau.
Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: “Mae Banc Datblygu Cymru, yn gwbl briodol, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ond mae’n cael ei ariannu ag arian cyhoeddus.
"Priodol, felly, ar ôl saith mlynedd, yw y dylid ystyried diwydrwydd dyladwy’r Banc fel benthyciwr, a'i weithdrefnau cwyno, a’u hadolygu i adlewyrchu newidiadau dros y blynyddoedd.
“Mae ambell bryder ynghylch pa mor gyson yw blaenoriaethau’r Banc â strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru. Rydym, felly, yn argymell hefyd y dylid cynnal adolygiadau rheolaidd o gylch gorchwyl y Banc.
“Mae ein hadroddiad yn gwneud 13 o argymhellion, sydd hefyd yn cynnwys adeiladu ymhellach ar lwyddiant y Banc o ran cefnogi pryniannau gan y gweithwyr, mwy o ddealltwriaeth o sut y mae’n cefnogi cynlluniau ynni cymunedol, a mwy o ddadansoddiad i ddeall effaith lawn buddsoddiadau’r Banc ar economi Cymru.
"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn a gofalus i farn ac argymhellion yr holl bobl a ymatebodd i’n galwad am dystiolaeth.”
Mae’r Pwyllgor wedi darparu nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r Banc Datblygu, gyda’r canlynol yn eu plith:
- adolygu ei ddull o gynllunio olyniaeth a phrynu gan weithwyr
- gwell dealltwriaeth o effaith y cyllid preifat a ddaw i mewn o ganlyniad i fuddsoddiadau uniongyrchol gan y Banc ar economi Cymru
- adolygu a ddylid gosod y Banc ar sail statudol
- adolygu ei brosesau diwydrwydd dyladwy i nodi a oes angen eu cryfhau
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor a byddwn yn ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y Banc Datblygu yn parhau i ddarparu'r gefnogaeth gywir i fusnesau Cymru, fel y mae'r pwyllgor yn cydnabod ei fod wedi'i wneud dros y saith mlynedd diwethaf.
“Mae ystyried sut mae gwasanaethau allweddol, fel y rhai a ddarperir gan Busnes Cymru a'r Banc Datblygu, yn cydweithio'n effeithiol yn bwysig ac mae argymhellion y pwyllgor yn ddefnyddiol yng nghyd-destun cymorth busnes ehangach, ymgysylltu ac adolygiadau."
Llun: Llywodraeth Cymru