Jacob Rees-Mogg a'i deulu i serennu mewn rhaglen ddogfen newydd
Bydd y cyn-AS Ceidwadol Jacob Rees-Mogg a'i deulu yn serennu mewn rhaglen ddogfen newydd.
Bydd 'Meet the Rees-Moggs' yn dilyn bywyd Mr Rees-Mogg, ei wraig Helena de Chair, a'u chwech o blant yn y gyfres a fydd yn cael ei darlledu ar blatfform Discovery+.
Bydd y gyfres bum pennod yn cael ei darlledu yn ddiweddarach eleni.
Fe gollodd Mr Rees-Mogg ei sedd yn etholaeth Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf yn yr etholiad cyffredinol.
Mae Discovery+ wedi addo y bydd y gyfres yn cynnig mewnwelediad "fel erioed o'r blaen" i fywyd cyn Aelod Seneddol, gan ddilyn ei hynt a'i helynt yn y cyfnod cyn yr etholiad.
Bydd gwarchodwraig y plant hefyd yn rhan o'r gyfres, sef Veronica Crook, a wnaeth edrych ar ôl Mr Rees-Mogg pan yr oedd yn blentyn yn y 60au.