Newyddion S4C

Rhys Webb i apelio yn erbyn gwaharddiad pedair blynedd

11/07/2024
rhys webb.png

Mae cyn-fewnwr Cymru Rhys Webb wedi dweud y bydd yn apelio yn erbyn gwaharddiad pedair blynedd gan Asiantaeth Wrth Gyffuriau Ffrainc.

Cafodd Webb ei wahardd yn fuan ar ôl ymuno â thîm Biarritz yr haf diwethaf ar ôl i brawf brofi’n bositif ar gyfer hormon twf dynol (HGH) yn ystod sesiwn hyfforddi.

Ni fydd Webb yn cael chwarae nes 2027, pan fydd yn 38 oed.

Dywedodd cyfreithiwr Webb, Dominique Laplagne, eu bod wedi ceisio cefnogaeth gyfreithiol gan lys gweinyddol uchaf Ffrainc. 

Mewn datganiad, dywedodd Mr Laplagne: "Nid yw'r gwaharddiad ar Rhys Webb yn derfynol.

"Rydym wedi cysylltu gyda chyfreithiwr yn y Conseil d'Etat er mwyn apelio i wyrdroi penderfyniad yr AFLD.

"Nid yw erioed wedi wynebu gweithdrefn ddisgyblu arall o unrhyw fath yn ei yrfa hir fel athletwr proffesiynol ac ni yw erioed wedi defnyddio unrhyw gynnyrch dopio, hormon twf yn benodol."

Enillodd Webb 40 cap dros Gymru cyn cyhoeddi ei ymddeoliad o gemau rhyngwladol cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2023.

Fe chwaraeodd y rhan fwyaf o’i yrfa â’r Gweilch gan dreulio cyfnod gyda Toulon a chwarae un gêm i Bath.

Cafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod yn 2017 i Seland Newydd, gan chwarae mewn dwy gêm brawf.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.