Newyddion S4C

Cau reid ym Mharc Antur Oakwood wedi i bobl gael eu hanafu

11/07/2024
oakwood.png

Mae reid ym Mharc Antur Oakwood yn Sir Benfro wedi cael ei chau ar ôl i bobl gael eu hanafu arni ddydd Mercher. 

Fe stopiodd reid 'Bounce' yng nghanol yr awyr yn ôl datganiad gan berchnogion y parc antur, sef yr un mwyaf yng Nghymru. 

Ychwanegodd y datganiad fod nifer o bobl wedi profi "mân boenau yng ngwaelod eu cefnau" ac eu bod angen cael eu gweld gan swyddogion cymorth cyntaf.

"Fe aeth un grŵp am driniaeth ychwanegol yn lleol, tra bod eraill wedi parhau â’u diwrnod yn y parc,"meddai'r datganiad.

Mae'r reid wedi ei chau tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal. 

Ysbyty

Fe gafodd y reid ei chau yn 2016 ac roedd i fod i gael ei hail-agor yn 2019 wedi iddi gael ei hadnewyddu am £400,000.

Ond cafodd y broses ei ohirio tan 2022 yn sgil y pandemig.

Roedd yn rhaid i ddyn gael ei gludo i'r ysbyty wedi digwyddiad ar un o reidiau'r parc antur ym mis Hydref 2022.

Ond dywedodd Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch nad oedd unrhyw fai ar offer y reid a ni chafodd unrhyw gamau eu cymryd yn erbyn y parc. 

Bu farw Hayley Williams, 16, o Bont-y-pŵl ym mis Ebrill 2004 wedi iddi ddisgyn 100 troedfedd o un o reidiau'r parc antur. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.