Newyddion S4C

Angen ‘gwelliannau sylweddol’ mewn ysbyty iechyd meddwl yn yr Wyddgrug

11/07/2024
Coed Du Hall

Mae angen gwneud “gwelliannau sylweddol” mewn ysbyty iechyd meddwl yn yr Wyddgrug, meddai corff annibynnol sy’n archwilio iechyd yng Nghymru.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiad yn dilyn arolygiad o Neuadd Coed Du, gwasanaeth iechyd meddwl yn Yr Wyddgrug.

Dywedodd yr arolygiaeth bod risgiau i gleifion yn cynnwys “wardiau anniben” a “drws tân gwydr a oedd wedi malu'n deilchion”.

Dywedodd yr arolygiaeth eu bod nhw wedi tynnu sylw yn syth yn ystod eu hymweliad ym mis Mawrth oherwydd “pryderon ynghylch llesiant y cleifion, y staff ac ymwelwyr”.

Roedd pryderon hefyd nad oedd “risgiau posibl o niwed yn cael eu nodi, eu monitro, eu lleihau, na'u hatal”. 

Roedd glendid yr ysbyty hefyd yn destun pryder, gan gynnwys sawl mater cynnal a chadw, a oedd yn peri risgiau posibl i'r cleifion,” medden nhw.

“Testun pryder oedd nodi nad oedd mynedfa/allanfa Ward Cedar i dir yr ysbyty yn cael ei rheoli yn ystod y dydd, a oedd yn peri risg y gallai cleifion ddianc o'r ysbyty, neu na fyddai'r staff yn gallu dod o hyd iddynt yn ystod argyfwng,” meddai’r arolygiaeth.

Roedd canmoliaeth serch hynny i’r staff a oedd yn “gweithio'n galed i drin y cleifion ag urddas a pharch”.

‘Camau’

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bod y  gwasanaeth yn “darparu cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac mae'n hanfodol bod gwelliannau'n cael eu gwneud”. 

“Er bod ein harolygiad wedi nodi amrywiaeth o feysydd i'w gwella, roedd yn gadarnhaol gweld bod y lleoliad wedi ymateb i'n hadborth, a bod camau eisoes yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn,” meddai.

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:"Mae'n galonogol bod y gwasanaeth wedi dod o hyd i rai meysydd o arfer da a thriniaeth i gleifion, ond mae'n amlwg bod angen gwelliannau sylweddol mewn meysydd eraill, a byddem nawr yn disgwyl i'r gwasanaeth roi sicrwydd i AGIC wrth fynd i'r afael ag unrhyw argymhellion sy'n weddill'.

"Mae darparwyr annibynnol yn cael eu monitro'n rheolaidd gan y tîm sicrhau ansawdd yng Nghyd-bwyllgor Comisiynu y GIG i sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau."

Mae hon yn uned gofal iechyd meddwl annibynnol ac felly nid yw'n dod o dan y Bwrdd Iechyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.