Dros 45 wedi marw ar ôl damwain awyren y fyddin yn y Philipinau

Mae o leiaf 45 o bobl wedi marw ar ôl damwain oedd yn cynnwys awyren filwrol yn y Philipinau.
Roedd yr awyren yn cario 92 o bobl pan wnaeth fethu'r llwybr glanio, gan gynnwys tri pheilot a pum aelod o griw, gyda'r gweddill yn swyddogion y fyddin.
Mae'r fyddin yn dweud bod 40 o bobl wedi eu hachub o'r dinistr.
Nid oedd achos y ddamwain yn glir yn syth wedi'r digwyddiad, ond mae cred ei fod wedi ei achosi yn sgil ymosodiad, yn ôl llefarydd ar ran y fyddin.
Darllenwch y stori'n llawn gan Sky News yma.