Cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Ian Buckett, wedi marw yn 56 oed
Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru ac Abertawe, Ian Buckett, wedi marw yn 56 oed.
Fe enillodd Buckett dri chap dros ei wlad ac fe chwaraeodd i dîm y Barbariaid hefyd.
Yn ogystal fe chwaraeodd yn gyson gyda chlwb Abertawe dros gyfnod o 10 tymor gan adael i chwarae i dîm Cymru Llundain yn 1998.
Ar ôl iddo ymddeol o chwarae rygbi, roedd Buckett wedi helpu i redeg Flint RFC a RGC14.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod Buckett fel chwaraewr “yn cael ei edmygu a’i ofni yn gyfartal”, tra bod Abertawe wedi dweud eu bod “mor drist” o glywed am ei farwolaeth.
Disgrifiodd Clwb Rygbi’r Fflint Buckett fel “gŵr bonheddig a ffrind da i bawb”.
“Cyffyrddodd Ian â chymaint o fywydau a bydd colled fawr ar ei ôl, nid yn unig yng Nghlwb Rygbi’r Fflint, ond hefyd ledled gogledd Cymru, Cymru a’r gymuned rygbi ehangach,” medden nhw.
Llun: Undeb Rygbi Cymru