Newyddion S4C

Diwylliant 'gwenwynig' o fewn y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

09/07/2024
Doctoriaid / Nyrsys / Ward / Ysbyty

Mae yna ddiwylliant "o gamweithredu" o fewn y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth sydd yn bygwth iechyd y cyhoedd yn ôl adroddiad damniol newydd.  

Mae'r Cyngor yn goruchwylio ac yn rheoleiddio nyrsys a bydwragedd Prydain.

Yn ôl yr adroddiad mae'r corff yn le lle mae "bwlio, hiliaeth ac ymddygiad gwenwynig" yn bodoli.

Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu gan y cyfreithiwr Nazir Afzal a Rise Associates. Roedden nhw wedi eu comisiynu i gynnal adolygiad wedi pryderon bod y corff ddim yn taclo camdriniaeth rywiol, hiliol a chorfforol. 

Dywedodd un o awduron y ddogfen bod "nyrsys da yn cael eu hymchwilio am gyfnod o flynyddoedd ynglŷn â materion bach tra bod nyrsys gwael yn osgoi cael eu cosbi".

Mewn un achos roedd y rheoleiddiwr wedi cymryd cyfnod o saith mlynedd i ddiswyddo nyrs a gafodd ei gyhuddo o dreisio ac ymosodiad rhyw.

Mae Cadeirydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Syr David Warren wedi ymddiheuro ac wedi dweud bod yr adroddiad yn un "poenus" i'w ddarllen.

Prif ganfyddiadau'r adroddiad oedd bod:

  • Dros 6,000 o achosion heb eu datrys. Hynny yn golygu bod rhai nyrsys wedi gorfod aros hyd at bedair neu bum mlynedd cyn bod eu hymchwiliad wedi ei gwblhau.
  • Rhai achosion wedi eu 'gollwng' am fod y digwyddiadau honedig wedi digwydd tu allan i'r gweithle
  • Staff yn teimlo bod y corff ddim yn gallu gwahaniaethu yn briodol rhwng achosion llai difrifol a rhai mwy difrifol. Roedd chwe nyrs wedi lladd eu hunain tra o dan ymchwiliad gan y rheoleiddiwr rhwng Ebrill 2023 ac Ebrill 2024.
  • Diwylliant o 'gamweithredu' gan gynnwys honiadau o hiliaeth o fewn ei rengoedd
  • Staff yn "stryglo", "yn flin, rhwystredig ac wedi ei diffygio". Roedd rhai ar “gyffuriau gwrth-iselder, eu gwalltiau yn cwympo mas a methu cysgu oherwydd bwlio ac arweinyddiaeth wael”.

“Ar bron bob lefel o’r sefydliad… gwelsom gamweithredu a oedd yn achosi trallod emosiynol i staff ac yn atal y sefydliad rhag gweithredu’n iawn,” meddai awduron yr adroddiad.

“Mae’r diwylliant yn un camweithredol ac mae’n cael effaith fawr ar staff, ond mae hefyd yn effeithio ar eu gwaith."

'Newid diwylliant'

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd y Cyngor y byddai’r adolygiad yn “drobwynt” i’r sefydliad ac mae wedi addo i gyflwyno “rhaglen newid diwylliant”.

Dywedodd cadeirydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Syr David Warren: “Mae hwn yn adroddiad poenus iawn i’w ddarllen. Yn gyntaf ac yn bennaf, rwy’n cydymdeimlo â theulu a ffrindiau unrhyw un sydd wedi marw drwy hunanladdiad tra dan ymchwiliad addasrwydd i ymarfer.

“Mae ein harweinydd diogelu yn ailymweld ar frys â’r achosion hynny ac yn archwilio effaith ein prosesau ar bawb sy’n ymwneud â nhw."

Dywedodd hefyd fod y corff yn ymddiheuro i unrhyw un sydd wedi cael profiadau o hiliaeth, o wahaniaethu yn eu herbyn neu o fwlio. 

“Rwy’n ymddiheuro hefyd i’r nyrsys, bydwragedd, cyflogwyr ac aelodau’r cyhoedd yr ydym wedi cymryd llawer gormod o amser i wneud penderfyniadau addasrwydd i ymarfer ar eu cyfer. 

"Bydd argymhellion Nazir Afzal, ynghyd â’n cynllun gwella presennol, yn gwneud y newid sylweddol maent yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu bod yn disgwyl i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth "ymateb gyda chamau gweithredu cyflym a chadarn" i'r argymhellion sydd yn yr adroddiad. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.