Disgwyl cyhoeddiad mai Craig Bellamy fydd rheolwr newydd Cymru
Mae disgwyl cyhoeddiad mai Craig Bellamy fydd rheolwr newydd Cymru.
Dywedodd asiantaeth newyddion PA a'r BBC mai Bellamy yw dewis cyntaf Cymdeithas Bêl-droed Cymru i olynu Rob Page yn y swydd.
Craig Bellamy yw is-reolwr clwb pêl-droed Burnley ar hyn o bryd.
Dywedodd adran chwaraeon BBC Cymru eu bod ar ddeall fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn y broses o gytuno ar gytundeb gyda Bellamy a Burnley ar y cyd.
Y gred yw bod Bellamy wedi cyfarfod ag uwch swyddogion y gymdeithas yr wythnos diwethaf.
Fe ymddangosodd Bellamy 78 o weithiau i Gymru cyn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2013.
Daeth yn agos at gael y swydd yn ôl yn 2018 cyn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru benodi Ryan Giggs.
Canlyniadau siomedig
Fis diwethaf fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod wedi dod a chytundeb Rob Page fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru i ben.
Roedd Page wedi bod o dan bwysau cynyddol wedi i Gymru gael canlyniadau siomedig yn eu gemau cyfeillgar diwethaf yn erbyn Gibraltar a Slofacia - gydag un gêm yn ddi-sgor, a cholli'n drwm yn yr ail gêm.
Methodd Cymru â chyrraedd Pencampwriaeth Euro 2024 hefyd, wedi iddyn nhw golli yn erbyn Gwlad Pwyl yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth eleni.
Llun gan Asiantaeth Huw Evans.