Newyddion S4C

Llafur yn 'gweithio ar gytundeb gwell gyda Tata'

Port Talbot

Mae’r llywodraeth Lafur newydd yn gweithio ar gytundeb gwell i waith dur Port Talbot, yn ôl AS Llafur blaenllaw o Gymru.

Roedd y llywodraeth Geidwadol wedi cytuno ar becyn gwerth £500m i helpu i gadw’r gwaith ar agor a symud i ddulliau cynhyrchu mwy gwyrdd.

Ond fel rhan o hynny dywedodd Tata Steel y byddai 2,800 o swyddi yn cael eu colli.

Dywedodd AS Rhondda ac Ogwr Syr Chris Bryant ei fod yn "obeithiol" y gallai gweinidogion yng Nghaerdydd a San Steffan ddod i gytundeb gyda'r cwmni i arbed swyddi.

Wrth ymateb i fuddugoliaeth Llafur yn yr etholiad dywedodd Tata y bydd "yn ymgysylltu â gweinidogion newydd ynghylch ein cynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi ym Mhort Talbot a'i drawsnewid".

Dywedodd Syr Chris Bryant: “Mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw Tata yn gwneud unrhyw symudiadau sydyn sy’n ei gwneud hi’n amhosib i ni ddad-wneud yr hyn oedd yn fargen wael iawn – a gytunwyd yn wreiddiol gan y llywodraeth Geidwadol.

“Swydd gwleidyddion yw ceisio gwneud yr amhosib yn bosib a dyna’n union beth rydyn ni’n mynd i geisio’i wneud yma."

Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Jonathan Reynolds (uchod) fore dydd Sul nad oedd yn gallu sicrhau arbed swyddi yng ngwaith Tata ym Mhort Talbot.

Ar raglen Laura Kuenssberg y BBC dywedodd Mr Reynolds fod y llywodraeth mewn trafodaethau gyda Tata a bydd yn sicrhau bod “gwarantu swyddi yn rhan o’r trafodaethau” – ond bod cynhyrchu dur gwyrdd newydd yn golygu llai o swyddi.

Mewn ymateb i sylwadau Mr Reynolds dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite Sharon Graham fod bwriad Llafur “yn beth da” ond ei bod hi’n bwriadu “dal eu traed i’r tân” ar y mater.

'Cyfnod anodd'

Dywedodd pennaeth Tata Steel UK, Rajesh Nair, ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda llywodraeth y DU ar dyfu cynhyrchiant dur gwyrdd.

Dywedodd: “Byddwn yn ymgysylltu â gweinidogion newydd ynglŷn â’n cynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi ym Mhort Talbot a’i drawsnewid gyda chynhyrchu dur ffwrnais bwa trydan, ac i gefnogi ein gweithwyr trwy’r cyfnod pontio angenrheidiol ond anodd hwn."

Cafodd un o'r ffwrneisi yn y gwaith dur ei chau ddydd Gwener diwethaf ac mae disgwyl i un arall gau ym mis Medi.

Bydd hynny’n rhoi terfyn ar allu Port Talbot i gynhyrchu haearn hylifol o fwyn.

Mae’r cwmni wedi dweud bod gweithredu ffwrnais chwyth Port Talbot yn golygu colledion o £1m y dydd a’i fod yn anghynaladwy yn ariannol.

Cafodd streic a drefnwyd ar gyfer 8 Gorffennaf ei chanslo gan undeb Unite ar ôl i Tata fygwth cau’r ddwy ffwrnais oherwydd ofnau diogelwch oherwydd y streic.

Mae Tata wedi bod mewn trafodaethau gydag undebau ers mis Ionawr pan ddatgelodd gynlluniau i drawsnewid y gwaith dur i ddelio â’i cholledion ariannol a thorri allyriadau carbon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.