Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw yn Llanelli
06/07/2024
Mae’r heddlu wedi arestio dyn wrth ymchwilio i lofruddiaeth menyw yn Llanelli.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod corff wedi ei ddarganfod ar Heol Bigyn y dref ddydd Gwener.
Mae dyn 49 wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
“Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad hwn,” meddai’r heddlu.
“Fodd bynnag bydd presenoldeb heddlu ychwanegol yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i’r ymchwiliad barhau.”