Newyddion S4C

Oriel Môn yn dathlu 30 mlynedd ers agor

Newyddion S4C 03/07/2021

Oriel Môn yn dathlu 30 mlynedd ers agor

Mae arddangosfa newydd wedi agor yn Oriel Môn i ddathlu 30 mlynedd ers agor yr adeilad.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith Charles Tunnicliffe a Kyffin Williams, ynghyd â nifer o weithiau eraill.

Er y dathlu, roedd y syniad o sefydlu'r oriel nôl yn yr 80au yn hynod ddadleuol.

Yn nyddiau cynnar y galeri bu ffrae am luniau Charles Tunnicliffe, gyda thrigolion yr ynys yn cyhuddo'r cyngor o wastraffu arian, a'r cynghorwyr yn rhanedig ynglŷn â beth i'w wneud.

Ond dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r oriel yn denu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac yn rhan bwysig o fywyd diwylliannol yr ynys.

Dywedodd Ian Jones, Rheolwr Casgliadau Oriel Môn: "Mae o'n ganolbwynt i dreftadaeth a diwylliant yr ynys, ac mae o'n adnodd am ddim i bawb felly, ac yn rywla i ddod i fwynhau celf a hanes yr ynys."

Bydd yr arddangosfa yn Oriel Môn ymlaen tan fis Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.