Cyhuddo dyn o lofruddiaeth wedi ymosodiad yng Ngorseinon
05/07/2024
Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, wedi marwolaeth dyn arall 64 oed yn dilyn ymosodiad honedig yng Ngwesty'r Station yng Ngorseinon.
Mae Christopher Cooper, 39 oed o Abertawe wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad gyda marwolaeth Kelvin Evans o Orseinon.
Wrth dalu teyrnged iddo dywedodd teulu Mr Evans eu bod wedi "tristau o brofi'r golled drasig a disynnwyr" yma.
Mae'r heddlu wedi diolch i bobl leol am eu cymorth gyda'r ymchwiliad ac yn dal i apelio am dystion i gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400172904.