Newyddion S4C

Y Prif Weinidog Newydd - ond pwy yw Syr Keir Starmer?

05/07/2024
Keir Starmer

Cyn bo hir bydd gan Brydain Brif Weinidog newydd, Syr Keir Starmer. Ond pwy yw’r dyn?  

Cafodd Keir Rodney Starmer ei eni yn Southwark, de Llundain ar Fedi 2, 1962 a’i fagu yn Oxted, Surrey, yn un o bedwar o blant. 

Doedd ei fagwraeth ddim yn hawdd. Roedd ei fam yn nyrs ond yn sâl am lawer o’i blentyndod. Roedd ei dad, Rodney yn gweithio mewn ffatri yn gwneud celfi.

Doedd ei dad ddim yn ddyn cynhesol yn ôl cyfaddefiad y mab ond roedd yn sosialwr cryf. Roedd yr aelwyd yn un ddisgybledig a doedd y plant ddim yn cael gwrando ar gerddoriaeth pop yn y tŷ na rhaglenni teledu poblogaidd y cyfnod fel ‘Tiswas’ neu ‘Starsky And Hutch.’ Roedd gan ei frawd iengaf, Ned anghenion dysgu. 

Fe basiodd Keir y prawf 11+ ac ennill lle yn Ysgol Ramadeg Reigate. Fel glaslanc fe ymunodd â Sosialwyr Ifanc y Blaid Lafur yn nwyrain Surrey yn ogystal â dysgu i chwarae nifer o offerynnau cerdd yn cynnwys piano a ffidil. 

Aeth ymlaen i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Leeds, yr aelod cyntaf o’i deulu i fynd i’r brifysgol. Mae’n dweud nad oedd yn gyfforddus bob adeg yn yr awyrgylch newydd. 

Tra roedd ei gyd fyfyrwyr yn gwybod ym mha faes roedden nhw yn gobeithio arbenigo ynddo, doedd Keir Starmer erioed wedi cyfarfod cyfreithiwr.

Gwleidyddiaeth

Fe wnaeth ymateb trwy weithio yn galetach a chael cynnig lle yn Rhydychen yn gwneud cwrs ol-radd mewn cyfraith sifil. Roedd o hefyd yn y cyfnod yma yn dod yn fwy gwleidyddol gan helpu i redeg cylchgrawn Trotskyaidd, ‘Socialist Alternatives’. 

Fe symudodd i Lundain a’i wneud yn fargyfreithiwr yn 1987 cyn sefydlu Siambr Stryd Doughty, oedd yn arbenigo mewn achosion hawliau dynol. Roeddd dros hanner eu hachosion yn rhai am ddim neu yn cael eu talu trwy gymorth cyfreithiol.

Yn 2008 daeth yn bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus. Yn ei gyfnod wrth y llyw mi roddodd sêl bendith i erlyn ASau a chymheiriaid yn ogystal â dod a dau ddyn a gafodd eu cyhuddo o lofruddio Stephen Lawrence o flaen eu gwell.

Priododd Victoria Alexander yn 2007. Mae hithau â chefndir yn y gyfraith ond yn gweithio heddiw i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol fel gweithwraig iechyd galwedigaethol. Mae ganddyn nhw ddau o blant, bachgen 15 oed a merch 13.

Aelod Seneddol

Yn 2015 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol ac mi fu mewn ac allan o dîm Jeremy Corbyn wedi hynny. Wedi canlyniadau trychinebus i'r blaid yn 2019 fe ddaeth yn arweinydd y blaid, a hynny mewn cyfnod pan oedd pandemig Covid. Roedd ei araith gyntaf fel arweinydd ar fideo.  

Ei gariad mawr yw pêl droed. Mae wedi bod yn chwaraewr brwd ac mae ganddo docyn tymor ar gyfer Arsenal. Mae ei deulu hefyd yn bwysig iawn iddo a’i blant yn cadw ei draed ar y ddaear.

Mae ei wrthwynebwyr wedi ei gyhuddo o newid ei feddwl ar bolisïau tra bod ei gefnogwyr yn dweud ei fod yn bragmataidd. 

Dyn ‘diflas’, ‘llwyd’ yw’r ddelwedd gyhoeddus ohono ond mae ei ffrindiau yn dweud ei fod yn berson normal, clên sy’n hoff o’i beint ac mae ei dîm wedi gweithio yn galed i'w wneud yn fwy personol.

Does dim dwywaith er hynny fel Prif Weinidog newydd fe ddown ni i gyd i’w adnabod ychydig yn well. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.