Cymru v Canada: Yr ymateb o Gaerdydd

Cymru v Canada: Yr ymateb o Gaerdydd

Newyddion S4C

Wedi misoedd hir o aros, mae cefnogwyr wedi cael dychwelyd i wylio Cymru yn chwarae rygbi unwaith eto.

Cafodd torf o 8,000 eu croesawu nôl i Stadiwm Principality ar gyfer y gêm yn erbyn Canada ddydd Sadwrn.

Roedd cyffro ar hyd strydoedd y ddinas cyn y gêm. 

"Ffili aros. Dros blwyddyn ers fi fod yn y stadiwm so edrych mlaen i weld y crysau coch 'to," meddai un cefnogwr wrth raglen Newyddion S4C.

Dywedodd un cefnogwr arall: "Ma' fe'n ardderchog bod nôl. Fi'n mynd i bob gêm gyda dad so ma' fe'n neis cal dad nôl 'da fi. Ma'r ddou o ni wastad yn mynd i gêms, ni'n Cardiff Blues ffans felly neis bod nôl lawr."