Newyddion S4C

Gweddillion wedi eu darganfod ar ôl i grocodeil ymosod ar ferch 12 oed

04/07/2024
Arwydd rhybudd crocodeil Awstralia

Mae gweddillion wedi eu darganfod ar ôl i grocodeil ymosod ar ferch 12 oed, meddai heddlu Awstralia.

Roedd y plentyn wedi mynd ar goll 17:30 amser lleol nos Fawrth ar ôl nofio yng nghilfach Mango Creek ger Palumpa, tref â phoblogaeth o tua 350 o bobl yn nhiriogaeth ogleddol Awstralia.

Dywedodd Heddlu Tiriogaeth Ogleddol Awstralia wrth Radio ABC bod teulu'r ferch ar eu gwyliau yn yr ardal a bod crocodeil du wedi ei weld yno.

Mewn datganiad amser cinio ddydd Iau yn Awstralia dywedodd Uwch Sarjant Erica Gibson bod canfod gweddillion y corff yn "erchyll."

"Mae hwn yn newyddion dinistriol o'r teulu, y gymuned a phawb sydd yn rhan o'r chwilio.

"Roedd canfod y corff yn erchyll ac yn ddiweddglo trist."

Ychwanegodd fod y 36 awr ers i'r plentyn mynd ar goll yn "hynod anodd" i'r teulu a'r gwasanaethau brys, a bod yr heddlu yn eu cefnogi.

Dywedodd Sarjant Gibson, a arweiniodd y chwilio, fod cwch a hofrennydd wedi cael eu defnyddio i chwilio'r ardal ac y byddai ymdrechion i ddal y crocodeil yn parhau.

Mae tiriogaeth ogleddol Awstralia yn gartref i tua 100,00 o grocodeiliaid, mwy nag unrhyw le arall yn y byd ac maen nhw'n gallu tyfu i hyd at chwe metr o hyd.

Llun: Wochit

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.