Cricedwyr Morgannwg o fewn trwch blewyn i dorri record byd
03/07/2024
Daeth tim criced Morgannwg o fewn trwch blewyn i dorri record byd mewn gêm ryfeddol yn erbyn swydd Gaerloyw ddydd Mercher.
Roedden nhw angen y sgôr uchaf erioed i ennill gêm griced - 593 o rediadau. Ond gorffenodd y gêm yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd yn gwbl gyfartal, gyda'r batiwr olaf, Jamie McIlroy allan oddi ar belen ola'r gêm, gyda sgôr Morgannwg ar 592.
Prif sgorwyr Morgannwg oedd y capten Sam Northeast gyda 187, a'r batiwr o Awstralia, Marnus Labuschane yn taro 119.