Microsoft am greu 120 o swyddi yng Nghasnewydd
Mae cwmni Microsoft yn bwriadu creu 120 o swyddi newydd yng Nghasnewydd wrth iddyn nhw agor canolfan ddata ar gyrion y ddinas.
Mae cynghorwyr y ddinas wedi rhoi caniatâd cynllunio i'r cwmni adeiladu dwy uned ar hen safle ffatri Quinn Radiators.
Bydd hen adeiladau'r ffatri'n cael eu dymchwel.
Bydd y ganolfan newydd yn gweithredu storfa ddata i'r "cwmwl", a bydd hefyd yn cynnwys tyrrau 14 medr o uchder ar gyfer generadur.
Mae'r cais wedi cael croeso gan y cyngor, sy'n ceisio denu mwy o gwmnïau o'r math yma i Gasnewydd.
Fel rhan o'r caniatâd cynllunio, bydd Microsoft yn cyfrannu £104,000 er mwyn gwella cyfleusterau cerdded a beicio ar hyd llwybr Celtic Way.