Newyddion S4C

Llofruddiaeth Bae Colwyn: diffynydd â 'hanes o drais'

03/07/2024
Llys y Goron yr Wyddgrug

Mae merch sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio dyn yn ei gartref wedi ymddwyn yn dreisgar o'r blaen, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher.

Mae Lauren Harris, sy'n 29 mlwydd oed ac heb gyfeiriad sefydlog, wedi gwadu trywanu Mark Wilcox, 63 mlwydd oed, ym Mae Colwyn mis Tachwedd diwethaf.

 Mae dau ddiffynydd arall, David Webster, 43 o Widnes, a Thomas Whiteley, 33, o Hen Golwyn hefyd wedi pledio'n ddieuog i fod yn ran o'r llofruddiaeth.

Mae Harris wedi penderfynu peidio rhoi tystiolaeth yn yr achos.

Ond dywedodd Andrew Ford KC ar ran yr erlyniad ei bod hi wedi ei chael yn euog yn 2022 o ymosod ar ei phartner gyda chyllell yn Hen Golwyn.

Yn ogystal, gwelodd y rheithgor luniau teledu cylch-cyfyng o Harris yn ymosod ar ddynion eraill yn Wrecsam a Bae Colwyn.

Clywodd y llys fod gan y ddau ddiffynydd arall, Webster a Whiteley, hefyd record o droseddau treisgar.

Cafodd corff Mark Wilcox ei ddarganfod  gan yr heddlu mewn cadair yn ei gartref  ym Mae Colwyn. Roedd wedi ei drywanu a'i guro. Mae'r achos yn parhau.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.