Plentyn ar goll ar ôl adroddiadau fod crocodeil wedi ymosod arno
Mae'r heddlu yng ngogledd Awstralia wedi dechrau chwilio am fachgen 12 oed sydd ar goll ar ôl adroddiadau fod crocodeil wedi ymosod arno.
Cafodd y bachgen ei weld ddiwethaf nos Fawrth yn nofio ger tref Palumpa yn nhiriogaeth ogleddol Awstralia.
Dywedodd yr heddlu bod tîm chwilio ac achub wedi ei anfon yn dilyn "adroddiadau bod crocodeil wedi ymosod ar y bachgen".
Mae tiriogaeth ogleddol Awstralia yn gartref i tua 100,00 o grocodeiliaid, mwy nag unrhyw le arall yn y byd.
Dechreuodd yr heddlu ac aelodau'r gymuned chwilio pan ddiflannodd y plentyn ger Cilfach Mango tua 17:30 amser lleol (08:00GMT).
"Mae swyddogion ar hyn o bryd yn chwilio mewn rhan fawr o'r gilfach mewn cwch ac rydym yn diolch i'r gymuned am gynorthwyo gyda'r chwilio," meddai'r Uwch Sarjant Erica Gibson mewn datganiad.
"Mae swyddogion lleol yn y lleoliad lle diflannodd y plentyn ac mae ein meddyliau gyda ei deulu a'r gymuned."
Llun: Andrew Leeson / Wochit