Newyddion S4C

Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ei atal o'i waith

02/07/2024

Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ei atal o'i waith

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi atal ei llywydd o'i waith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal. 

Dyw'r corff ddim wedi dweud pam yn union nad yw Steve Williams yn ymgymryd â'i ddyletswyddau ar hyn o bryd.

Y gred yw bod y cyngor sy’n gyfrifol am lywodraethu Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael gwybod am y penderfyniad i’w atal o’i waith yr wythnos diwethaf. 

Cafodd Mr Williams ei ethol yn llywydd y gymdeithas bêl-droed yn 2021 ac mae ei dymor yn y rôl honno yn para am flwyddyn arall.

Yn rhan o’i ddyletswyddau fel llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae Mr Williams yn gyfrifol am oruchwylio pêl-droed ar bob lefel yng Nghymru, ac mi oedd yn rhan o’r penderfyniad i ddiswyddo Rob Page fel rheolwr tîm y dynion, fis Mehefin. 

Mae’r gymdeithas yn parhau â'r broses o chwilio am reolwr newydd i dîm pêl-droed Cymru. 

Y llynedd, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei fod wedi torri pob cysylltiad ag un o’u cyn-lywyddion, Phil Pritchard, yn dilyn camau disgyblu. 

Roedd ymchwiliad ar y pryd wedi dod i’r casgliad ei fod wedi gwneud sylwadau 'misogynistaidd' oedd yn gwahaniaethu ar sail rhyw mewn cinio cyn gêm tra oedd yn aelod o’r cyngor. 

Llun: Asiantaeth Huw Evans 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.