Newyddion S4C

Y llofrudd plant Lucy Letby yn euog o geisio llofruddio baban

Lucy letby

Mae'r llofrudd plant Lucy Letby wedi ei chael yn euog yn Llys y Goron Manceinion o geisio llofruddio baban yn Ysbyty Iarlles Caer.  

Mewn ail achos yn erbyn y cyn nyrs, dyfarnodd y rheithgor ei bod hi'n euog o geisio llofruddio merch fach a gafodd ei geni'n gynnar, a oedd yn cael ei hadnabod gan y llys fel Baban K.  

Fis Awst 2023, cafodd Letby, sy'n 34 oed ei dyfarnu'n euog gan reithgor arall o lofruddio saith baban a cheisio llofruddio chwe arall yn Ysbyty Iarlles Caer rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.  

Ond methodd y rheithgor hwnnw â dod i ddyfarniad yn achos Baban K, ac felly daeth gorchymyn i gynnal achos arall.  

Ddydd Mawrth, daeth y rheithgor yn yr achos hwnnw i'r casgliad iddi geisio llofruddio'r ferch fach a gafodd ei "geni'n gynnar iawn" drwy dynnu tiwbiau oddi arni yn ystod orian mân y bore ar 17 Chwefror 2016.  

Ni ddangosodd Letby unrhyw emosiwn wrth iddi glywed y dyfarniad yn Llys y Goron Manceinion.  

Bydd hi'n cael ei dedfrydu ddydd Gwener, 5 Gorffennaf.  

Dyweodd y barnwr Mr Ustus Goss wrth Letby: “Byddwch yma ar gyfer y dedfrydu fore Gwener.  

“Yn amlwg, ry'ch chi eisoes yn treulio dedfryd o garchar am oes."  


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.