Newyddion S4C

Syr Tom Jones i berfformio wrth i Eisteddfod Llangollen ddechrau

02/07/2024
tom jones llangollen.png

Bydd Syr Tom Jones yn perfformio wrth i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddechrau ddydd Mawrth.

Bydd yr ŵyl yn para chwe diwrnod, gyda disgwyl i 50,000 o bobl ymweld â'r dref yn Sir Ddinbych yn ystod y cyfnod.

Yn sgil partneriaeth newydd gyda chwmni hyrwyddo cerddoriaeth, mae’r Eisteddfod wedi denu sawl enw mawr o’r byd cerddoriaeth pop yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf. 

Ond mae rhai wedi galw ar drefnwyr i “ddiogelu neges graidd yr Eisteddfod” wrth i’r ŵyl foderneiddio.

Syr Tom Jones yw’r prif enw fydd yn perfformio yn ystod wythnos yr ŵyl, ar 2 Gorffennaf. 

Yn ogystal, bydd y lleisydd jazz Gregory Porter (Gorffennaf 5), a’r gantores glasurol Katherine Jenkins (Gorffennaf 7) yn perfformio'r un wythnos. 

Mae rhai enwau mawr eisoes wedi perfformio, gan gynnwys Bryan Adams, Paloma Faith a'r Manic Street Preachers. 

Dyma fydd y tro cyntaf i Syr Tom Jones berfformio yn yr ŵyl, a gafodd ei sefydlu ym 1947. 

Ers hynny, mae mwy na 400,000 o gystadleuwyr wedi perfformio yn yr Eisteddfod.

Bydd Gorymdaith y Cenhedloedd yn cael ei chynnal ddydd Mercher, lle mae pobl leol ac ymwelwyr yn dawnsio, canu a chwarae offerynnau yn y stryd. 

Mae disgwyl i bobl o 34 o wledydd gwahanol berfformio yn yr ŵyl eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.