Newyddion S4C

Gyrrwr bws 76 oed o Abertawe yn benderfynol o barhau wrth y llyw

01/07/2024
Kenny Beckers

Mae’n debyg mai dyn 76 oed o Abertawe sydd wedi bod wrth y llyw fel gyrrwr bws am y cyfnod hiraf yn y DU – ac mae’n benderfynol o barhau yn ei swydd cyhyd ag y bo modd. 

Mae Kenny Beckers wedi bod yn gyrru bysus ers yn 21 oed. 

Yn ôl amcangyfrifon cyflogwr Mr Beckers, First Bus, mae’n debyg ei fod wedi cludo saith miliwn o bobl ar hyd a lled Abertawe, gan yrru tua 800,000 o filltiroedd yn ystod ei yrfa. 

Ac mae Kenny Beckers wedi dweud ei fod yn benderfynol o aros yn y rôl, ag yntau erioed wedi teimlo y dylai rhoi’r gorau i’w swydd. 

“Unwaith bod fy nghorff yn teimlo mai digon yw digon, yna byddai’n rhoi'r gorau iddi,” meddai. 

“Yn ystod fy holl flynyddoedd yn gweithio, dwi erioed wedi meddwl am roi’r gorau iddi. 

“Yn onest, dwi erioed wedi cael y foment honno o feddwl: ‘Dwi ‘di cael digon, dyna ni.’”

Mae Mr Beckers bellach yn gweithio ddeuddydd yr wythnos, ond nid oes ganddo unrhyw gynlluniau i roi’r gorau i yrru bysus yn gyfan gwbl. 

“Os dwi’n teimlo bod fy iechyd yn ddigon da, byddaf yn parhau i fynd,” meddai.  

Atgofion melys

Mae Mr Beckers wedi bod yn gyrru bysus yn ei ardal leol trwy gydol ei yrfa, ond mae wedi cael ei gyflogi gan bum cwmni gwahanol ar hyd y blynyddoedd. 

Mae’n cofio cludo pobl leol ar hyd y blynyddoedd, gan ddweud mai 1969 oedd un o’r adegau “gorau” i fod yn yrrwr bws. 

“Roedd yna gymaint o lwybrau ac roedden ni’n cludo gymaint o deithwyr – gan gynnwys llawer o bobl o'r holl ffatrïoedd, y glofeydd, a British Steel ym Mhort Talbot. 

“Dwi hefyd yn cofio’r bysus oedd â dau lawr, ond dim ond ar y llawr uchaf roedd pobl yn cael ysmygu,” meddai. 

Dywedodd bod llawer o llai o deithwyr bellach.

“Mae ‘na lai o bobl yn gweithio mewn swyddfeydd a siopau, gyda mwy o bobl â cheir, gan olygu fod llai o bobl yn teithio ar y bws,” meddai. 

Ond dywedodd bod mwy o wasanaethau bws bellach ar gael a bod hynny’n “newyddion da."

Llun: First Bus/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.