Newyddion S4C

Dedfryd o 17 mlynedd o garchar i'r pedoffeil Neil Foden

Neil Foden

Mae'r cyn brifathro Neil Foden wedi cael ei ddedfrydu i 17 mlynedd o garchar am droseddau rhyw yn erbyn pedwar o blant. 

Fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf dwy rhan o dair o'i ddedfryd o dan glo.

Wrth ei ddedfrydu, fe ddisgrifiodd y Barnwr Rhys Rowlands Neil Foden fel cymeriad "gormesol a bombastig" oedd gyda "chyfrinach warthus - obsesiwn rhywiol gyda merched ifanc bregus yn eu harddegau."

Roedd Foden yn bennaeth ar Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes cyn iddo gael ei arestio ym mis Medi 2023. 

Yn gwisgo siaced las, cafodd Foden ei hebrwng gan swyddogion carchar i fyny'r grisiau i'r llys fore dydd Llun, gyda'r llys yn orlawn o gynrychiolwyr cyfreithiol, swyddogion prawf, yr heddlu ac aelodau'r wasg.

Roedd oriel gyhoeddus y llys hefyd yn llawn, gyda nifer o deuluoedd dioddefwyr Foden yn bresennol ar gyfer y dedfrydu.

Ar ddiwedd y ddedfryd roedd modd clywed wylo yn dod o'r oriel gyhoeddus, gydag un dyn yn gweiddi ar Foden i "fwynhau" ei amser yn y carchar.

'Dinistrio dyfodol'

Fe glywodd y llys ddatganiadau dioddefwyr gan y pedwar dioddefwr yn yr achos - Plentyn A, B, C ag E.

Fe wnaethant ddisgrifio'n fanwl yr effaith niweidiol roedd cam-driniaeth Foden wedi ei gael ar eu bywydau ifanc. 

Yn darllen datganiad ar ran Plentyn A, fe ddywedodd un o fargyfreithwyr yr erlyniad, Sarah Badrawy fod Foden wedi 'dinistrio bywyd' y plentyn.

"Mae 'na adegau lle dwi wedi ystyried lladd fy hun, gan nad ydwi'n gallu cario ymlaen", meddai datganiad y plentyn.

"Dwi wedi colli fy ffrindiau i gyd, ac mae fy nyfodol wedi ei ddinistrio, mae popeth yn anobeithiol, ac mae'r holl beth wedi chwalu fy nheulu i gyd. 

"Dwi'n berson preifat iawn, ond mae'r syniad bod gwybodaeth am elfennau mor bersonol o fy mywyd a fy nheimladau wedi bod yn cael eu trafod yn agored mewn llys wedi rhoi loes enfawr i mi. Dwi'n casau fy hun am hynny.  

"Dwi ddim yn gwybod sut dwi am allu symud ymlaen o hyn." 

Yn dilyn datganiad Plentyn A, fe atgoffodd y Barnwr Rhys Rowlands y llys fod gan y dioddefwyr i gyd hawl i fod yn anhysbys am weddill eu bywydau.

Cyhuddiadau

Fe cafwyd Neil Foden yn euog i 19 o gyhuddiadau o gam-drin merched yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd mewn achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Mai eleni.

Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud â phump o blant, oedd yn cael eu hadnabod yn y llys fel Plant A, B, C, D ag E.

Fe gymerodd y rheithgor ychydig o dan bump awr i ddod i’r casgliad bod Foden, o Hen Golwyn, yn euog i'r mwyafrif o gyhuddiadau ar ddiwedd achos oedd wedi para am 17 o ddyddiau.

Fe'i cafwyd yn ddieuog i gyhuddiad yn ymwneud â Phlentyn D.

Roedd y cyhuddiadau'n cynnwys 12 cyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn - gyda dau gyhuddiad am berson oedd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth.

Ar ddiwedd y gwrandawiad, fe ddiolchodd y barnwr i'r heddlu am eu holl waith, ac i'r holl dystion ddaeth ymlaen i sicrhau fod cyfiawnder yn ennill y dydd. 

Yn arbennig felly i'r dioddefwyr am eu dewrder aruthrol yn dod i'r llys, meddai. 

Mae Heddlu Gogledd Cymu wedi ymateb i'r ddedfryd. 

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Gareth Evans: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn croesawu dedfryd heddiw, sy’n adlewyrchu natur arswydus troseddau Neil Foden.

“’Da ni’n rhannu sioc a ffieidd-dod ein cymunedau tuag at ei droseddau.

“’Dwi eisiau diolch i’r dioddefwyr ddaeth atom ni ynglŷn â’r achos yma. Mae eu dewrder a’u cryfder nhw o fynd drwy brofiad anodd yr achos llys yn haeddu edmygedd pawb.

“’Dwi’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol yn y gorffennol i ddod atom ni. ‘Da ni yma i wrando. ‘Da ni yma i’ch helpu chi. Mi wnawn ni ein gorau drosoch chi.”

Dywedodd yr Uwch Swyddog Archwilio yn yr achos, y Ditectif Brif Arolygydd Sophie Chance: “Mi gyflawnodd Neil Foden ymgyrch benodol ac anrheithgar yn erbyn plant bregus.

“Mi fuaswn i’n hoffi cydnabod gwaith y rhai yn fy nhîm archwilio i, a’n partneriaid ni yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, sydd wedi gweithio’n ddi-baid er mwyn bwrw ymlaen hefo’r achos yma a sicrhau ei fod yn dod o flaen ei well.

“Mi fuaswn i hefyd yn hoffi diolch i’n cydweithwyr ni yn y Ganolfan Ailgyfeirio Ymosodiad Rhywiol (SARC), oedd yn allweddol yn helpu’r dioddefwyr, a hebddyn nhw, ni fuasai troseddu Neil Foden wedi dod i’r amlwg.”

Fe ddaeth y dedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug i ben wrth i'r barnwr orchymyn swyddog y carchar i "fynd â Foden i lawr."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.