Newyddion S4C

Y gantores Eirlys Parri wedi marw yn 74 oed

Eirlys Parri

Mae'r gantores ac actores Eirlys Parri, a enillodd Cân i Gymru gyda'r gân 'Be ddylwn i ddweud?', wedi marw yn 74 oed.

Enillodd y gystadleuaeth yn 1986 gyda'r gân a gyfansoddwyd gan Mari Emlyn ac roedd ganddi ei chyfres ei hun ar S4C yn 1988 ac 1989 sef 'Eirlys'.

Cafodd ei geni yn Sŵn y Môr, Morfa Nefyn ac roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Edern ac Ysgol Ramadeg Pwllheli.

Aeth ymlaen i Goleg y Drindod yng Nghaerfyrddin i astudio'r Gymraeg a Drama.

Dechreuodd ei gyrfa ym myd cerddoriaeth trwy gyfansoddi caneuon a recordiodd y gân 'Pedwar Gwynt' ym mharlwr Harri Parri a Gareth Maelor ym Mhorthmadog.

Ymddangosodd ar y rhaglen deledu Disc a Dawn ac fe deithiodd ar hyd Cymru i ganu yng nghyngherddau Pinaclau Pop.

Roedd hi wedi cyhoeddi tri albwm rhwng 1983 ac 1988 gyda Recordiadau Sain.

Wrth roi teyrnged iddi dywedodd Sain: "Trist iawn oedd clywed y newydd am golli Eirlys Parri. 

"Cantores cwbl arbennig. Braint oedd hi i Sain gael rhyddhau cymaint o'i chaneuon ar hyd y blynyddoedd. 

"Roedd ei chanu wastad yn llawn enaid ac yn cyffwrdd y galon. Cofiwn am ei chyfraniad disglair i gerddoriaeth Cymru."

'Braint'

Ynghyd â'i gyrfa yn ganu roedd Eirlys Parri wedi cael y cyfle i actio rhan Mrs Noa gyda Theatr Cymru a bu'n rhan o gyfres deledu Codi Pais.

Roedd hi'n athrawes mewn ysgolion yn Llandudoch, Llanelli ac Ysgol y Dderwen Caerfyrddin cyn dechrau ar swydd gydag Adran Cysylltiadau Cyhoeddus S4C yn trefnu digwyddiadau'r sianel, yng Nghymru ac ar draws y byd.

Fe wnaeth hi ddychwelyd i'r byd addysg i ddysgu yn Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd, ac Ysgol Castellau, y Beddau. 

Wrth drafod ei hamser yn dysgu yn ne Cymru dywedodd wrth BBC Cymru yn 2006 ei fod yn "fraint cydweithio gyda rhieni brwd dros y Gymraeg oedd yn awyddus i'w plant siarad yr iaith ar ôl i genhedlaeth ei cholli yn y cymoedd".

Roedd hi'n gweithio fel Athrawes Ymgynghorol i Awdurdod Addysg Caerdydd yn dilyn ei swyddi dysgu yn y cymoedd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.