Newyddion S4C

Arestio dynes ôl 'fideo rhyw' mewn carchar

Carchar Wandsworth

Mae dynes wedi’i harestio ar ôl i fideo gael ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n honni dangos aelod o staff carchar yn cael rhyw gyda charcharor.

Dywedodd Heddlu’r Met eu bod wedi dechrau ymchwiliad ddydd Gwener "ar ôl i swyddogion gael gwybod am fideo yr honnir iddo gael ei ffilmio y tu mewn i HMP Wandsworth".

Ychwanegodd yr heddlu fod y ddynes wedi ei harestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yr un diwrnod a’i bod yn nalfa’r heddlu.

Dywedodd y Met bod eu hymchwiliadau'n parhau a'u bod yn parhau i fod "mewn cysylltiad agos â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder".

Dywedodd Gwasanaeth Carchardai EM yn flaenorol eu bod wedi riportio cyn swyddog i’r heddlu ar ôl i’r honiadau ddod i’r amlwg.

Dywedodd Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi na fydden nhw’n wneud sylw yn ystod cyfnod yr etholiad.

Llun gan Lucy North / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.