Newyddion S4C

Etholiad: Polisïau'r pleidiau gwleidyddol llai

27/06/2024

Etholiad: Polisïau'r pleidiau gwleidyddol llai

"Vote Liberal Democrats, diolch yn fawr iawn."

Dim ond wythnos arall o obeithio i'r rhain bod y placardiau a'r polisiau'n troi'n pleidleisiau ar 4 Gorffennaf.

Jane Dodds oedd yr Aelod Seneddol Cymreig diwethaf i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Wedi tri mis byr yn San Steffan mae'r blaid wedi bod heb yr un yng Nghymru ers 2019.

Dyw hi ddim yn sefyll y tro hwn ond mae'n hyderus bod adfywiad ar droed.

"Maen nhw'n gwrando ar be ni'n canolbwyntio arno bod ffermwyr yn cael mwy o arian a'r gwasanaethau iechyd a gofal.

"Maen nhw'n clywed ac am bleidleisio drosom ni y flwyddyn yma."

Maen nhw'n addo £210 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth gofal £260 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a buddsoddi mewn amaeth, safon dŵr ac inswleiddio cartrefi.

Inswleiddio cartrefi yw un o addewidion y Gwyrddion hefyd.

Dyw'r blaid sy'n rhoi polisiau amgylcheddol yn ganolog i'w haddewidion erioed wedi cael aelod etholedig Cymreig yn Senedd Cymru na San Steffan.

"Mae polisiau ni'n cynnwys codi Universal Credit gan £40 yr wythnos.

"Codi'r minimum wage i £15 yr awr ac felly buddsoddi mwy na £3 biliwn yn economi Cymru er mwyn ailadeiladu'r gwasanaethau cyhoeddus."

Mae'r Gwyrddion yn moyn annibyniaeth i Gymru a chodi trethi ar asedau y mwyaf cyfoethog er mwyn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Mae plaid newydd Nigel Farage yn mynnu mae mewnfudo yw'r pwnc mawr a maen nhw sydd â'r ateb i hynny a sawl her arall.

"Byddwn yn codi trothwy trethi i £20,000 a lleihau mewnfudo ac yn diogelu ffermio.

"Byddwn yn diddymu treth busnes bach ac yn dileu rhestrau aros ysbytai."

Er bod enw Reform yn newydd mae neges Nigel Farage wedi bod yn gyson ers ei ddyddiau UKIP bod y prif bleidiau yn San Steffan a Senedd Cymru yn methu.

Mae llygad Reform, fel pob un o'r pleidiau llai ar osod sylfeini cadarn yn yr etholiad hwn ar gyfer ymladd o ddifrif am seddi yn Senedd Cymru ymhen dwy flynedd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.