Canmol difforddwyr tân am gynnig cymorth i fam roi genedigaeth mewn car
Mae diffoddwyr tân oedd yn brwydro tân ar safle adeiladu cychod wedi cael eu canmol am gynnig cymorth i fam roi genedigaeth mewn car cyfagos.
Roedd Josh Beardmore wedi bod yn gyrru ei bartner Alice Heale i Ysbyty Brenhinol Cernyw yn Truro, Cernyw, pan ddechreuodd hi esgor yn gyflym.
Ar ôl sylweddoli na fyddent yn cyrraedd yr ysbyty, cofiodd Mr Beardmore fod tân ar safle adeiladu cychod Cockwells ym Mhenryn cyn gyrru yno i ofyn am gymorth gan y criwiau tân.
Aeth diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Cernyw i helpu'r ddau ar unwaith.
Fe symudodd swyddogion injan dân o flaen y car i rwystro'r olygfa o'r ffordd, tra bod y diffoddwr tân Katie Hoskins yn gyfrifol am gynorthwyo gyda'r enedigaeth.
Ganwyd Olive yn ddiogel ac yn iach am 14.36pm ar 16 Mai.
Mae hi bellach wedi cael ei chyflwyno i’r criw a helpodd i ddod â hi i’r byd, ynghyd â’i rhieni a’i brawd Teddy, dwy oed.
'Mae'r babi'n dod'
Dywedodd Mr Beardmore, gwirfoddolwr bad achub gyda’r RNLI: “Roedden ni yn y car ac roedden ni newydd fynd lawr y ffordd pan ddywedodd Alice ‘Mae’n rhaid i mi wthio, mae’r babi’n dod’.
“Roeddwn i’n gwybod am y tân yn Cockwells oherwydd bod y ffordd wedi ei chau ac roeddwn i wedi gweld yr holl adroddiadau newyddion.
"Roeddwn i wedi bod yn cadw llygad arno rhag ofn i ni orfod mynd ffordd wahanol i'r ysbyty.
“Roeddwn i’n gwybod y byddai’r frigâd dân yn fwy na thebyg i lawr yno. Pan ddywedodd y gwasanaeth ambiwlans wrthyf am dynnu drosodd meddyliais ‘Rwy’n gwybod yn union ble y gallaf fynd’.
“Fe wnes i chwifio draw at y bois a dweud ‘Dwi’n meddwl bod angen ychydig o help llaw arna i fan hyn, mae fy ngwraig yn cael babi’.”
Roedd dŵr Ms Hearle wedi torri ychydig ddyddiau yn gynnar ac felly roedd y cwpl wedi teithio i Ysbyty Brenhinol Cernyw.
Apwyntiad
Dychwelodd Ms Hearle adref i orffwys a chael apwyntiad am 16:00 ar 16 Mai.
Ond tua 13:00 y diwrnod hwnnw, dechreuodd esgor yn sydyn ac fe aeth y teulu am yr ysbyty.
Wrth ddisgrifio ymateb y criwiau tân, dywedodd Mr Beardmore: “Roedden nhw’n anhygoel. Fe wnaethon nhw ollwng popeth. Roedd y ddwy ferch yn syth yn y car ac yn dweud ‘rydych chi’n gofalu am Alice ac fe wnawn ni ddelio â’r babi’.”
Ychwanegodd Ms Hearle: “Os oedden nhw’n nerfus, wnaethon nhw ddim ei ddangos o gwbl. Roeddent mor gysurus gan gymryd rheolaeth o'r sefyllfa.
“Doedd gen i ddim amser i boeni. Ar ôl gwthio deirgwaith, roedd y babi allan ac fe wnaeth hi grio’n syth felly roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n iawn.”
Llun: PA