Heddlu yn cyfeirio eu hunain at archwilwyr wedi marwolaeth menyw o Ben-y-Bont ar Ogwr
Mae llu heddlu yn Lloegr wedi cyfeirio ei hun at archwilwyr annibynnol ôl marwolaeth dau unigolyn, un ohonynt yn fenyw o Ben-y-Bont ar Ogwr.
Dywedodd Heddlu Sir Stafford ddydd Mercher eu bod nhw yn ymchwilio i achos posib o lofruddiaeth ar ôl dod o hyd i gyrff y ddau mewn tŷ yn Alpine Drive, Hednesford, Cannock.
Cred yr heddlu yw mai Lauren Evans, 22 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr a Daniel Duffield, 24 oed, o Cannock yw’r ddau.
Nid yw’r cyrff wedi eu hadnabod yn swyddogol eto.
Mae’r heddlu wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Daeth y gwasanaeth ambiwlans o hyd i’r cyrff am 12.30 ddydd Mawrth.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Nicki Addison, o Adran Ymchwiliadau Mawr Sir Stafford ei fod yn “meddwl am y teuluoedd”.
“Rydw i’n deall fod y newyddion wedi ysgwyd y gymuned yn lleol,” meddai.
“Hoffwn i dawelu meddwl pawb fod tîm arbenigol yn gweithio oriau hir er mwyn ymchwilio i’r hyn sydd wedi digwydd a chefnogi’r teuluoedd.
“Rydyn ni’n deall bod llawer o bobl eisiau gwybod beth sydd wedi digwydd ond hoffwn ni bwysleisio nad ydi dyfalu yn helpu’r teuluoedd ar amser anodd iawn.
“Hoffwn i ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu gyda gwybodaeth ac yn gofyn bod pobl yn parhau i gysylltu os oes gyda nhw unrhyw wybodaeth newydd allai fod o gymorth i ni.”