Yr actor Bill Cobbs wedi marw yn 90 oed
Mae'r actor Bill Cobbs, oedd yn adnabyddus am ei rolau yn ffilmiau Night At The Museum a The Bodyguard, wedi marw yn 90 oed.
Bu farw'r actor ddydd Mawrth yng Nghaliffornia gyda'i deulu o'i amgylch meddai ei asiant.
Y gred yw ei fod wedi marw o achosion naturiol.
Roedd yn fwyaf andabyddus am chwarae rheolwr Whitney Houston Bill Devaney yn ffilm The Bodyguard ym 1992, a'r swyddog diogelwch Reggie yn Night At The Museum yn 2006.
Chwaraeodd rolau hefyd yn Air Bud, The Hudsucker Proxy a Sunshine State.
Fe wnaeth hefyd ymddangosiadau yn y byd teledu, gan ymddangos ar gyfresi The Sopranos, The West Wing, Sesame Street a Good Times.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd yr actor Wendell Pierce ei fod yn "ffigwr tadol ac yn artist eiconig".
"Fe gafodd Bill Cobbs ei eni a'i fagu yn Cleveland," meddai.
"Rhannodd gymaint o straeon am y ddinas yr oedd yn ei charu, a digwydd bod mai yn y ddinas honno ydw i wrth i mi ddysgu am ei farwolaeth.
"Fel teyrnged i Bill, byddaf yn sicrhau fy mod i'n gwneud gwaith y byddai ef wedi bod yn falch ohono."