Newyddion S4C

Heddlu'r Gogledd yn arestio dau ddyn ar amheuaeth o dreisio

Heddwas

Mae dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o dreisio a charcharu ffug yn dilyn digwyddiad yng Nghefn Mawr ger Wrecsam fore Llun.

Mae'r ddau ddyn , sy'n 28 a 31 mlwydd oed, yn parhau i gael eu holi yn y ddalfa, wedi i Heddlu'r Gogledd wneud apêl am wybodaeth.

Dywedodd yr heddlu: "Rydym am bwysleisio mai digwyddiad unigol yw hwn,  a nad oes 'na unrhyw reswm i'r gymuned ehangach fod yn bryderus."

Mae nhw'n dweud eu bod yn parhau i fod yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ger cylchfan yn agos i siop Tesco yng Nghefn Mawr tua 6 o'r gloch fore Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.