
Y Gymdeithas Bêl-droed yn dechrau'r chwilio am reolwr newydd i Gymru
Mae'r chwilio wedi dechrau yn swyddogol ar gyfer rheolwr newydd Cymru pum ddiwrnod ers i gyfnod Rob Page dod i ben.
Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ddydd Mercher eu bod nhw'n dechrau ar y broses o apwyntio rheolwr newydd gydag ychydig fisoedd tan gemau nesaf y tîm cenedlaethol.
Mae rhai enwau eisoes wedi cael eu crybwyll ar gyfer y swydd gan gynnwys Osian Roberts, Craig Bellamy a chyn-chwaraewr Ffrainc Thierry Henry.
Beth yn union mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn chwilio amdano yn eu hyfforddwr newydd felly?
'Yr ymgeisydd orau'
Mewn datganiad dywedodd CBDC eu bod nhw eisiau "denu'r ymgeisydd orau" ar gyfer y swydd sydd â "hanes a record dda o lwyddiant ar lefel clwb neu ryngwladol."
Mae nhw hefyd eisiau i'r rheolwr "dyfu yn y rôl".
Byddai hyn yn cynnwys dangos y gallu i fod yn hyblyg yn eu tactegau ac addasu eu ffordd o chwarae i sicrhau bod y chwaraewyr yn cael eu hyfforddi yn iawn, meddai CBDC.
'Perfformiad o safon uchel'
Mae Cymru wedi cyrraedd tair o'r pum prif gystadleuaeth ddiwethaf gan gynnwys Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Methodd y tîm a chyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen ar ôl colli i Wlad Pwyl ar giciau o'r smotyn yn y gemau ail-gyfle.
Mae'r Gymdeithas eisiau gweld strategaeth perfformiad uchel "sydd â sylfaen yng ngwerthoedd CBDC ac egwyddorion tactegol y 'Welsh Way'.

Fe all hyn golygu peidio symud i ffwrdd o'r ffordd mae Cymru wedi chwarae dros y blynyddoedd diwethaf, sydd yn cynnwys pum amddiffynnwr, tri chwaraewr yng nghanol y cae a dau ymosodwr.
Mae CBDC eisiau'r hyfforddwr newydd i ddefnyddio'r strategaeth hon hefyd i adeiladu tîm llwyddiannus a chreu awyrgylch ar gyfer chwaraewyr i "gyrraedd eu potensial."
'Diwylliant, iaith, a hanes'
Mae gan Gymru chwaraewyr gyda nifer o glybiau yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n hanfodol i'r rheolwr newydd adeiladu perthynas gyda'r clybiau yma, meddai CBDC.
Yn y gorffennol mae dadlau wedi bod rhwng Cymru â chlybiau ynglyn ag argaeledd y chwaraewyr ar gyfer gemau rhyngwladol.
Byddai rheolwr newydd yn gallu "cynnal sgwrs agored" er mwyn sicrhau bod chwaraewyr yn gallu rheoli eu hyfforddi ar gyfer "llwyddiant rhyngwladol ac i'w clybiau."
Dros y blynyddoedd mae rheolwyr Cymru wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau mewn cymunedau ar draws y wlad rhwng gemau rhyngwladol.
Byddai CBCD yn disgwyl i'r rheolwr newydd ymroi i'r gweithgareddau yma sydd yn "hanfodol a gyda gwreiddiau o fewn diwylliant Cymreig, yr iaith Gymraeg a hanes Cymru."
Pwy yw'r ceffylau blaen ar gyfer y swydd?
Craig Bellamy
Un o'r ffefrynnau ar gyfer y swydd yw cyn-ymosodwr Cymru, Craig Bellamy.
Roedd Bellamy yn is-reolwr Burnley tan ddiwedd y tymor diwethaf, gyda'r clwb yn disgyn i'r Bencampwriaeth.
Bellach mae'n rheolwr dros dro ar Burnley wedi iddo beidio dilyn eu rheolwr blaenorol, Vincent Kompany i'r Almaen pan gafodd ei benodi'n rheolwr ar Bayern Munich.
Sgoriodd Bellamy 19 gôl mewn 78 gêm dros ei wlad gan gynnwys gôl mewn buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Yr Eidal yn 2002.
Ond does ganddo ddim llawer o brofiad hyfforddi ar y lefel uchaf. Ei swydd bresennol gyda Burnley, cyfnod fel rheolwr tîm dan 21 RSC Anderlecht yng Ngwlad Belg ac fel rheolwr tîm dan 18 Caerdydd yw ei unig brofiadau hyfforddi hyd yma.
Osian Roberts
Enw cyfarwydd iawn i gefnogwyr Cymru yw Osian Roberts.
Roedd yn is-reolwr i Chris Coleman yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Cymru a hefyd am gyfnod tra'r oedd Ryan Giggs wrth y llyw.
Fe arweiniodd Roberts clwb Como 1907 o Serie B i Serie A, prif gynghrair Yr Eidal, y tymor diwethaf.
Mae ei swyddi hyfforddi yn cynnwys arwain y New Mexico Chiles yn yr 1990au, Porthmadog yng Nghynghrair Cymru ac yna fel is-reolwr i Patrick Vieira gyda Crystal Palace.
Wedi i Coleman ymddiswyddo fel rheolwr Cymru yn 2017, roedd Osian Roberts wedi dangos diddordeb yn swydd gan ddweud ei fod eisiau bod yn rheolwr newydd ar Gymru.
Does dim sicrwydd a fydd Roberts yn parhau fel rheolwr Como 1907 y tymor nesaf. Mae ganddo rôl fel pennaeth datblygiad chwaraewyr yn y clwb hefyd.
Thierry Henry
Mae gan Thierry Henry gysylltiadau â Chymru wedi iddo gwblhau cwrs hyfforddi CBDC.
Ar hyn o bryd mae'n rheolwr dîm pêl-droed dan 21 Ffrainc a hefyd yn rheolwr tîm Ffrainc ar gyfer y Gemau Olympaidd ym Mharis fis nesaf.
Cyn hynny roedd yn rheolwr AS Monaco yn Ffrainc, Montreal Impact yng Nghanada ac yn is-reolwr i Roberto Martinez gyda thîm Gwlad Belg.
Enillodd nifer o dlysau fel chwaraewr gan gynnwys Uwch Gynghrair Lloegr a Chwpan yr FA ar ddau achlysur gydag Arsenal.
Fe aeth ymlaen i ennill yr uwch gynghrair yn Sbaen a Chynghrair y Pencampwyr gyda Barcelona.
Prif lun: Asiantaeth Huw Evans