Constance Marten a Mark Gordon yn euog o guddio genedigaeth plentyn
Mae Constance Marten a'i phartner Mark Gordon wedi eu cael yn euog o guddio genedigaeth plentyn a gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn Llys yr Old Bailey.
Clywodd y rheithgor fod y ddau wedi dianc rhag yr awdurdodau ym mis Ionawr y llynedd mewn ymdrech i gadw gafael ar eu plentyn newydd-anedig.
Dros gyfnod o saith wythnos, fe deithiodd y cwpl ar draws Lloegr a chysgu mewn pabell wrth i'r heddlu chwilio am y plentyn.
Cafodd y ddau eu harestio yn Brighton ar 27 Chwefror y llynedd, ddau ddiwrnod cyn i gorff eu merch, Victoria, gael ei ddarganfod mewn coetir.
Nid oedd modd sefydlu beth oedd achos y farwolaeth, ond dywedodd Marten ei bod wedi deffro i ddarganfod ei merch yn anymwybodol yn ei siaced.
Roedd y ddau wedi gwadu pob cyhuddiad yn eu herbyn.
Mae'r ddau yn wynebu ail achos am ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.
Fe gafodd y rheithgor yn yr achos blaenorol eu rhyddhau yr wythnos ddiwethaf wedi iddyn nhw fethu â dod i ddyfarniad ar y cyhuddiadau.
Cyhoeddodd yr erlyniad eu bod yn bwriadu sicrhau ail achos yn yr un gwrandawiad ddydd Mercher.
Gosododd y barnwr ddyddiad dros dro ar gyfer yr achos, sef ar 3 Mawrth y flwyddyn nesaf.