Paratoi cynllun i 'lunio dyfodol' addysg Gymraeg Sir Gâr am y ddegawd nesaf
Mae cynllun newydd yn cael ei baratoi gan Gyngor Sir Gâr fydd yn "llunio dyfodol addysg cyfrwng Cymraeg" y sir am y 10 mlynedd nesaf, medd yr awdurdod.
Nod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yw bod pob plentyn yn Sir Gaerfyrddin yn cael y cyfle i fod yn rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Bydd y cynllun drafft yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu - Addysg a Phlant y Cyngor ddydd Iau, 8 Gorffennaf i'w drafod, a bydd cyfnod o "ymgynghori ac ymgysylltu helaeth" dros wyth wythnos yn yr hydref i gasglu ymateb i'r cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: "Mae gennym y nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yma yn Sir Gaerfyrddin ac rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc i gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fel ein bod yn creu cymunedau dwyieithog cynaliadwy a chryf.
"Mae bod yn ddwyieithog yn dod â nifer o fanteision, er enghraifft mae pobl ddwyieithog yn dueddol o fod yn fwy creadigol a hyblyg, ac maent yn ei chael hi'n haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau a dysgu ieithoedd ychwanegol.
"Mae ein cynllun drafft yn nodi ein prif nodau sy'n cynnwys gweithio gydag ysgolion i'w symud ar hyd y continwwm iaith, a pharhau i ddatblygu staff gan ddefnyddio rhaglen hyfforddiant hyblyg a chynhwysfawr.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, bydd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei roi o flaen Bwrdd Gweithredol y Cyngor ac yna i'r Cyngor Llawn er mwyn cael penderfyniad terfynol, cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo'n ddiweddarach.