'Amser cau Cyfoeth Naturiol Cymru', meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylid cau i lawr y corff sy'n gyfrifol am amddiffyn yr amgylchedd yng Nghymru.
Dywedodd Andrew RT Davies nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru nhw wedi gweithredu yn ddigon buan dros safle tirlenwi dadleuol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i “adolygu ar frys” sut y gwnaethon nhw ymateb i gwynion am safle Withyhedge ger Hwlffordd yn Sir Benfro.
Mae trigolion wedi bod yn cwyno am arogl y safle, ac fe gafodd sylw ar raglen Dispatches ar Channel 4 nos Wener.
Mae perchennog y safle David Neal hefyd wedi bod yng nghanol ffrae wedi i un o’i gwmnïoedd roi rhodd o £200,000 i ymgyrch arweinyddiaeth y Prif Weinidog, Vaughan Gething.
Mae Vaughan Gething wedi dweud ei fod wedi cadw at y rheolau ar bob achlysur.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Andrew RT Davies bod “trigolion [Withyhedge] wedi gorfod dioddef bod yn gorfforol sâl oherwydd bod y drewdod mor ddrwg.”
Wrth siarad yn ddiweddarach, fe ddywedodd: “Unwaith eto, mae rheolydd amgylcheddol Cymru yn cysgu wrth y llyw.
“Er gwaethaf problemau yn Withyhedge am flynyddoedd, mae trigolion yr ardal yn parhau i gael eu difetha gan y safle hwn.
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi profi ei fod yn aneffeithiol a dylid ei gau a chael corff newydd yn ei le.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud bod y sefyllfa yn Withyhedge yn "gwbl annerbyniol" ac yn gwneud "popeth posib i sicrhau" bod cwmni Resources Management Ltd (RML), sydd yn rheoli'r safle, yn ei ddatrys.
‘Cydymffurfio’
Wrth ymateb i feirniadaeth Andrew RT Davies o Gyfoeth Naturiol Cymru yn y Senedd, dywedodd Vaughan Gething: “Os edrychwch ar hanes tirlenwi, mae yna lawer o gymunedau sydd wedi wynebu heriau o ran y ffordd y mae safleoedd tirlenwi wedi cael eu gweithredu ac y mae angen eu gwella.
“Yn gyffredinol, mae gan CNC stori dda i'w hadrodd am yr hyn y mae wedi'i wneud i helpu i gyflawni'r gwelliant hwnnw, fel rheoleiddiwr.”
Mewn datganiad yn dilyn y rhaglen Dispatches Channel 4, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod gweithredwyr tirlenwi yn cydymffurfio’n llawn â gofynion amgylcheddol a chyfreithiol llym.
“O ystyried natur ddifrifol y materion a godwyd gan y rhaglen, rydym wedi gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru adolygu ar fyrder pa gamau a gymerodd i ymchwilio a mynd i’r afael â’r cwynion a godwyd yn uniongyrchol ag ef ers 2020.”
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Yng ngoleuni'r rhaglen ‘Dispatches’, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni adolygu ein gweithredoedd i wirio nad oes unrhyw beth newydd y mae angen i ni fod yn ei wneud.
"Rydym wedi cadarnhau iddynt fod popeth a godwyd yn y rhaglen eisoes yn rhan o'n hymchwiliad, ac maent yn fodlon ar hyn.
"Rydym wedi gofyn i'r bobl a gafodd sylw yn rhaglen dydd Gwener i ddarparu datganiadau tystion ar gyfer ein hymchwiliad a, hyd yn hyn, mae dau ohonynt wedi gwneud hynny.
"Mae'r sefyllfa yn Withyhedge yn gwbl annerbyniol ac rydym yn gwneud popeth posib i sicrhau bod RML yn cymryd y camau angenrheidiol i ddatrys y sefyllfa.
"Mae hyn ar wahân i'n hymchwiliad ni, a all arwain at erlyni.”