Newyddion S4C

Awdurdodau yn 'gallu dysgu' o wasanethau cymdeithasol Cyngor Castell-nedd Port Talbot

25/06/2024

Awdurdodau yn 'gallu dysgu' o wasanethau cymdeithasol Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Mae gan Kayleigh, sy'n drideg pump, saith o blant. Fe gafodd y ddau hynaf eu rhoi mewn gofal pan oedd hi mewn perthynas anodd.

"I suppose if you ask any mother having their child taken away you don't see the point in living."

Erbyn hyn mae hi'n gweld nhw'n gyson ac mae ganddi berthynas dda gyda nhw.

Mae nifer y plant sydd mewn gofal yng Nghymru wedi cynyddu dros 80% mewn 20 mlynedd ond mae 'na un sir yn llwyddo i droi'r llanw. Yn 2012 roedd dros 500 o blant mewn gofal yng Nghastell-nedd Port Talbot, y gyfradd ucha yng Nghymru.

Bellach mae hynny wedi haneru er bod yna gynnydd mawr wedi bod mewn ymholiadau i'w adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

"Maen nhw'n gweld yr un heriau â phob awdurdod arall. Mwy o deuluoedd tlawd, mwy o pressures ariannol yn gyffredinol ond maen nhw yn amlwg wedi penderfynu buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n gallu cadw teuluoedd gyda'i gilydd.

"Mae hynny'n hynod impressive wrth feddwl am y pressure sy arnyn nhw."

Oes yna wersi allai ardaloedd eraill ddysgu?

"Mae ishe edrych mewn i'r model a dw i'n bwriadu gwneud hyn. O ddarllen yr headlines, mae pethau i ddysgu o beth maen nhw wedi neud."

Cadw teuluoedd gyda'i gilydd yw'r nod. Mae hynny'n talu ffordd mewn mwy nag un ffordd. Mae'r Cyngor wedi llwyddo i arbed £4m ers 2012 wrth wneud hynny.

"Mae'n bwysig yn y gwaith i adeiladu perthnasau gyda theuluoedd. Mae'n rhaid iddyn nhw trysto gweithwyr cymdeithasol a gweithio gyda nhw i sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn ffynnu yn eu cartrefi.

"Mae Neath Port Talbot 'di neud mwy nag un peth ond gyda'i gilydd maen nhw wedi bod yn llwyddiannus yn cadw mwy o blant gartref."

Mae 'na wersi y gall ardaloedd eraill eu dysgu ond mae'r heriau'n amrywio yn ôl arbenigwyr.

"Mae'n anodd i bob awdurdod i gael bob adran yn gweithio'n grêt ar yr un pryd. Mae 'na bocedi o ymarfer da ac elfennau sy'n gweithio'n dda mewn rhai ardaloedd efallai na fyddai'n gweithio mewn pob ardal.

"Mae'n dibynnu ar lefelau diweithdra neu dlodi yn yr ardal. Mae nifer ystod gwahanol elfennau a ffactorau yn effeithio awdurdod lleol ymhob un ardal. Mae'n anodd deud mae rhywbeth yn gweithio mewn un lle beth am ei wneud o bob man."

Mae cyflwr bregus yr economi a'r argyfwng costau byw yn awgrymu nad yw pethau'n debyg o wella i nifer o bobl yn fuan, ond yng Nghastell-nedd Port Talbot maen nhw'n gwneud gwahaniaeth er gwaetha'r heriau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.