Newyddion S4C

Llys yn clywed fod dyn wedi 'cynllwynio i dreisio a llofruddio' Holly Willoughby

24/06/2024
Holly Willoughby

Mae llys wedi clywed honiadau fod swyddog diogelwch wedi cynllwynio i "gipio, treisio a llofruddio" Holly Willoughby.

Mae'r erlyniad yn yr achos yn honni fod Gavin Plumb, 37, wedi casglu offer ar gyfer cyflawni trais rhywiol yn erbyn y cyn-gyflwynydd This Morning rhwng 2021 a 2023.

Mae Plumb, sy'n dod o Harlow, Essex, ar brawf yn Llys y Goron Chelmsford. Mae'n gwadu'r cyhuddiadau o gymell llofruddiaeth, annog herwgipio ac annog trais rhywiol.

Clywodd y llys fod Plumb wedi creu cynlluniau “graffig” i herwgipio, treisio a llofruddio Ms Willoughby gyda heddwas cudd o'r Unol Daleithiau. Roedd y cynlluniau yn cynnwys ceisio “ymosod” ar y cyflwynydd yn ei chartref.

Yn ôl yr honiadau, roedd Plumb wedi casglu “cannoedd” o luniau o Ms Willoughby oddi ar y rhyngrwyd, ac roedd wedi rhannu “delweddau pornograffi deepfakes o Holly Willoughby” ar-lein gyda pherson o’r enw Marc.

Dywedodd yr erlynydd Alison Morgan KC fod Plumb wedi dweud wrth Marc: “Mae ei hatal a’i chael hi wedi bod yn ffantasi i mi ers llawer rhy hir. Rydw i nawr wedi cyrraedd y pwynt nad yw ffantasi yn ddigon bellach. Dw i eisiau’r peth go iawn.”

Mae Plumb wedi ei gyhuddo o geisio annog dyn arall o'r enw David Nelson i gyflawni llofruddiaeth, ac o annog neu gynorthwyo herwgipio a threisio.

Roedd Mr Plumb wedi cynllwynio gyda Mr Nelson ar-lein ac wedi creu “cynllun manwl” i gyflawni’r troseddau.

'Llawn cymhelliant rhywiol'

Yn ei sylwadau agoriadol i’r rheithgor ddydd Llun, dywedodd yr erlynydd Alison Morgan: “Ym mis Hydref 2023, fe wnaeth y diffynnydd, Gavin Plumb, gynnal trafodaeth ar-lein gyda pherson yr oedd yn credu oedd o'r enw David Nelson.

“Yn y drafodaeth honno, esboniodd y diffynnydd ei gynlluniau i herwgipio, treisio a llofruddio Holly Willoughby.

“Fe wnaeth y diffynnydd amlinellu ei gynlluniau a cheisio annog y person arall i gyflawni’r troseddau hynny gydag ef.

“Roedd cynlluniau’r diffynnydd o ran yr hyn y byddai’n ei wneud i Holly Willoughby yn fanwl ac yn amlwg yn llawn cymhelliant rhywiol.

“Roedden nhw’n real iddo, ac yn seiliedig ar obsesiwn gyda Holly Willoughby a oedd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd.”

Wrth sôn am sut y daeth Plumb i gael ei arestio, dywedodd Ms Morgan: “Yr hyn nad oedd y diffynnydd yn ei wybod bryd hynny oedd bod y person yr oedd yn cyfathrebu ag ef ar-lein yn blismon cudd wedi’i leoli yn yr UDA ac nid, mewn gwirionedd, yn rywun a oedd a’r un meddylfryd.

“Yna fe amharwyd ar gynllun y diffynnydd, ac fe gafodd ei arestio gan yr heddlu.

“Achos yr erlyniad yw bod trafodaethau ar-lein y diffynnydd wedi datgelu ei wir fwriad i gynnal cynllwyn i herwgipio Holly Willoughby o’i chartref teuluol, er mwyn mynd â hi i leoliad lle byddai’n cael ei threisio dro ar ôl tro, cyn i’r diffynnydd ei lladd hi.

“Nid dim ond meddyliau ffantasydd oedd y rhain. Roedd y diffynnydd wedi cynllunio’n ofalus yr hyn y byddai’n ei wneud a sut y byddai’n ei wneud, gan brynu eitemau a fyddai’n ei gynorthwyo i gyflawni’r ymosodiad hwnnw.”

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.