Warren Gatland yn cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer y daith i Awstralia
Mae Warren Gatland wedi cynnwys tri chwaraewr di-gap yng ngharfan Cymru ar gyfer eu taith i Awstralia.
Bydd Efan Daniel, Regan Grace a Josh Hathaway yn teithio i Awstralia wrth i Gymru chwarae dwy gêm yn erbyn y Wallabies a herio y Queensland Reds.
Daw cyhoeddiad Gatland ddeuddydd wedi i'r crysau cochion golli 41-13 i bencampwyr y byd, De Affrica yn Twickenham.
Roedd Cymru ar eu hôl i o bwynt yn unig ar hanner amser, ond fe aeth y Sbringboks ymlaen i sgorio tri chais yn yr ail hanner.
Chwaraewyr newydd
Ni fydd Jac Morgan, Tomos Williams, Taulupe Faletau, Adam Beard, Gareth Anscombe, Josh Adams, Will Rowlands a Ryan Elias yn chwarae yn Awstralia, gan olygu bod enwau newydd wedi eu cynnwys.
Prop Caerdydd Efan Daniel yw un ohonynt, sydd wedi chwarae pum gêm i dîm dan 20 Cymru.
Asgellwyr yw'r ddau arall, sef Regan Grace a Josh Hathaway.
Nid yw Grace wedi chwarae llawer dros y ddwy flynedd diwethaf oherwydd anafiadau, wedi iddo symud i rygbi'r undeb o rygbi'r gynghrair.
Mae asgellwr Caerloyw, Josh Hathaway yn enedigol o Aberystwyth ac wedi gwneud 12 ymddangosiad i'w glwb ers 2022.
'Cyffrous'
Wrth siarad ar ôl cyhoeddi'r garfan, dywedodd Warren Gatland bod y garfan yn ifanc ac yn ei gyffroi.
"Rydym yn disgwyl dwy gêm ffyrnig a chystadleuol a hefyd rydyn ni'n falch i allu chwarae trydedd gêm yn erbyn y Queensland Reds," meddai.
"Dwi wedi fy nghyffroi gan y garfan hon. Rydym yn gwybod bod Awstralia yn lle anodd i fynd a chwarae rygbi, ond rydym yn barod am yr her.
"Rydym yn canolbwyntio ar wella fel grŵp. Mae'r garfan dal yn ifanc ac yn dysgu i chwarae ar y lefel yma.
"Mae nifer o bethau positif i gymryd o'r gêm dros y penwythnos, ond rydym hefyd yn cydnabod bod angen gweithio'n galed i wella ar rai agweddau dros yr wythnosau nesaf."
Y garfan yn llawn
Blaenwyr
Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Gareth Thomas, Efan Daniel, Dewi Lake (C), Evan Lloyd, Archie Griffin, Dillon Lewis, Harri O’Connor, Ben Carter, Cory Hill, Dafydd Jenkins, Matthew Screech, Christ Tshiunza, James Botham, Mackenzie Martin, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Aaron Wainwright.
Olwyr
Ellis Bevan, Gareth Davies, Kieran Hardy, Sam Costelow, Mason Grady, Eddie James, Ben Thomas, Nick Tompkins, Owen Watkin, Rio Dyer, Regan Grace, Josh Hathaway, Liam Williams, Jacob Beetham, Cameron Winnett.
Llun: Asiantaeth Huw Evans