Alan Hansen wedi gadael yr ysbyty yn dilyn salwch difrifol
Mae clwb pêl-droed Lerpwl wedi cyhoeddi bod eu cyn-chwaraewr Alan Hansen wedi cael gadael yr ysbyty yr oedd yn derbyn triniaeth ynddo.
Ddechrau'r mis fe ddywedodd y clwb bod yr Albanwr yn ddifrifol wael.
Mewn datganiad dydd Sul, dywedodd llefarydd: "Mae Alan wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty heddiw er mwyn parhau â’i adferiad gartref.
"Hoffai Alan, Janet, Adam, Lucy a’r teulu ddiolch i bawb am eu negeseuon hyfryd o gariad a chefnogaeth.
"Mae wedi bod yn gysur enfawr ac mae wedi helpu'n aruthrol."
Mae Alan Hansen yn cael ei ystyried fel un o amddiffynwyr gorau’r Alban erioed.
Fe chwaraeodd fel amddiffynnwr i Partick Thistle ac i dîm llwyddiannus Lerpwl ar ddiwedd y 1970au a’r 1980au, ac i dîm cenedlaethol yr Alban.
Fe gafodd Hansen, sy'n 68 oed, yrfa lwyddiannus fel sylwebydd pêl-droed gyda’r BBC ar ôl iddo orffen chwarae.
Fe weithiodd i Sky a Radio 5 Live cyn ymuno â thîm Match of the Day am 22 mlynedd cyn iddo adael yn 2014.
Roedd yn cael ei adnabod fel “Jockey’ gan ei gyd-chwaraewyr ac fe enillodd wyth teitl cynghrair, tri Chwpan Ewropeaidd, dau Gwpan FA a thri Chwpan y Gynghrair ar ôl chwarae 434 o gemau gyda Lerpwl.
Llun: CPD Lerpwl