Newyddion S4C

Daw eto haul ar fryn? Darogan cyfnod byr o heulwen i rannau o'r wlad

22/06/2024
Traeth - torheulo

Mae tywydd poeth yn debygol o gyrraedd rannau o’r DU yr wythnos nesaf am gyfnod byr ar ôl gwanwyn gwlyb, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Bydd y rhan fwyaf o’r DU “yn profi’r amodau gorau a’r tymereddau uchaf hyd yn hyn eleni” ac fe allai rhai gorsafoedd tywydd weld y tymheredd yn cyrraedd 30C.

Mae disgwyl i dymereddau uwch gyrraedd yn gynnar yr wythnos nesaf gyda llawer o ardaloedd yn profi tymheredd o 20C ag uwch.

Mae hyn yn dilyn gwanwyn glawog, a welodd 32% yn fwy o law na’r cyfartaledd yng Nghymru a Lloegr, gan ei wneud yr wythfed gwlypaf a gofnodwyd yng Nghymru, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Ond, dim ond tan ddydd Mercher y mae disgwyl i'r gwres bara gyda chawodydd trwm, stormydd mellt a tharanau a glaw parhaus o bosib yn dychwelyd yn y gorllewin wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen.

Mae'r tywydd gwlyb wedi bod yn dod o Fôr yr Iwerydd ac mae disgwyl i system gwasgedd uchel ei atal am rai dyddiau.

Dywedodd Honor Criswick o'r Swyddfa Dywydd: “Wrth i ni ddechrau yr wythnos nesaf rydyn ni’n dechrau gweld y cyfnodau poethach, ond mae’n mynd i fod yn eithaf byr.

“Bydd yn gyfnod poeth byr, ond efallai yn ddechrau’r haf y mae llawer o bobl wedi bod yn aros amdano rwy’n siŵr.”

Er gwaethaf y tywydd gwlyb, hwn oedd y mis Mai a'r gwanwyn cynhesaf ar gofnod yn y DU.

Y tymheredd cyfartalog oedd 13.1C, gan guro record flaenorol 2008 o 12.1C.

Dywedodd Ms Criswick “nad oedd llawer o bobl yn gallu ei gredu pan ddaeth ystadegau’r gwanwyn i mewn”, ond ychwanegodd eu bod wedi’u dylanwadu i raddau helaeth gan dymheredd uwch dros nos.

 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.